Canolfan ar gyfer astudio pob agwedd ar fywyd morwrol Cymru yw Amgueddfa Genedlaethol y Glannau (Saesneg: National Waterfront Museum).
Fe'i lleolir yn Abertawe ac mae'n rhan o Amgueddfa Cymru. Mae hefyd yn Fan Angoru ERIH, yr European Route of Industrial Heritage.
Math | amgueddfa forwrol, amgueddfa genedlaethol, amgueddfa |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Amgueddfa Cymru |
Lleoliad | Amgueddfa Forwrol a Diwydiannol |
Sir | Abertawe |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 6 metr |
Cyfesurynnau | 51.6164°N 3.9386°W |
Rheolir gan | Amgueddfa Cymru |
Mae'r adeilad newydd wedi ei adeiladu o lechi a gwydr ac wedi ei gyfuno â hen adeilad warws rhestredig ar Radd II (bu gynt yn Amgueddfa Diwydiant a Môr Abertawe). Mae'r amgueddfa newydd yn delio gyda hanes y Chwyldro Diwydiannol gan gyfuno eitemau hanesyddol o bwys gyda thechnolegau cyfoes megis sgrîn gyffwrdd a systemau cyflwyno amlgyfrwng. Dyluniwyd yr adeiad a'r arddangosfa gan Wilkinson Eyre a Landesign; Davis Langdon oedd rheolwr y cynllun.
Dechreuodd y syniad ar gyfer yr amgueddfa ddod i'r fei mewn ymgynghoriad cyhoeddus yn Ebrill 1998, a derbyniwyd arian gan Awdurdod Datblygu Cymru a Chronfa Treftadaeth y Loteri ymysg eraill. Agorwyd yr amgueddfa'n swyddogol yn Hydref 2005, mewn seremoni a fynychwyd gan nifer o enwogion Cymreig megis Gareth Edwards a'r Prif Weinidog, Rhodri Morgan. Dywed rhai fod y datblygiad yn dwyn sylw oddi ar canol y ddinas, sydd wedi dioddef dirywiad economaidd ers ddechrau'r 1980au.
Gwnaethpwyd yr Amgueddfa yn lle i gynnal priodasau ar 15 Rhagfyr 2005.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.