Roedd Allen Clement (Clem) Edwards (7 Mehefin 1869 – 23 Mehefin 1938) yn gyfreithiwr, yn undebwr llafur, yn wleidydd Rhyddfrydol Cymreig ac yn Aelod Seneddol.
Roedd yn gefnogwr brwd o'r Rhyfel Byd Cyntaf, yn un o sylfaenwyr y blaid o blaid y rhyfel Y Blaid Democrataidd Cenedlaethol a Llafur ac yn gadeirydd y blaid yn y senedd.
Allen Clement Edwards | |
---|---|
Ganwyd | 7 Mehefin 1869 Tref-y-clawdd |
Bu farw | 23 Mehefin 1938 Golders Green |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, undebwr llafur, bargyfreithiwr |
Swydd | Aelod o 31ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 30ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 28ain Senedd y Deyrnas Unedig |
Plaid Wleidyddol | Plaid Ryddfrydol |
Ganwyd (Clem) Edwards ym 1869 yn Nhrefyclawdd, yn fab i George Benjamin Edwards, dilledydd ac ocsiwnïer a Sarah (née Tudge) ei wraig. Cafodd ei addysgu yn ysgol leol Trefyclawdd ac mewn dosbarthiadau nos yng Ngholeg Birkbeck yn Llundain.
Priododd Fanny Emerson ym 1890, bu hi farw ym 1920. Priododd ei ail wraig Alice May Parker ym 1922 a bu iddynt un mab.
Dechreuodd Edwards ei yrfa yn y gyfraith yn gweithio mewn swyddfa cyfreithiwr yn Nhrefyclawdd. Ym 1899, galwyd ef i'r Bar gan y Deml Ganol. Roedd yn arbenigwr mewn achosion undebau llafur gan gynrychioli'r gweithwyr mewn nifer o achosion pwysig megis achos Taff Vale Railway ym 1901 a'r ymchwiliad i Danchwa Senghennydd.
Yn ogystal â chynnig cyngor cyfreithiol i'r undebau roedd Edwards hefyd yn weithgar fel trefnydd undebau. Fe fu yn ysgrifennydd cynorthwyol Undeb Llafurwyr Cyffredinol y Dociau, Glanfeydd a Glannau’r Afon ac Ysgrifennydd Cyffredinol Ffederasiwn Undebau'r Dociau a Thrafnidiaeth. Fe fu'n cynrychioli'r undebau hyn yn yr ymchwiliad i suddo'r RMS Titanic.
Yn ogystal â'i waith ym myd y gyfraith a'r undebau yr oedd hefyd yn newyddiadurwr blaenllaw gan weithio fel gohebydd materion Llafur ar The London Sun, The London Echo a'r Daily News.
Er ei fod yn Undebwr Llafur brwd doedd Edwards ddim yn gefnogol o'r Blaid Lafur. Cafodd ei ethol i gyngor Islington ym 1898. Safodd yn aflwyddiannus am sedd seneddol Tottenham fel Rhyddfrydwr yn etholiad 1895 ac ym Mwrdeistrefi Dinbych ym 1900. Safodd eto yn Ninbych ym 1906 gan gipio'r sedd. Methodd i gael ei ailethol yno yn Ionawr 1910 gan golli o ddim ond wyth bleidlais. Yn etholiad Tachwedd 1910 safodd i'r Rhyddfrydwyr yn etholaeth Dwyrain Morgannwg gan gipio'r sedd. Cafodd etholaeth Dwyrain Morgannwg ei ddileu ar gyfer etholiad 1918.
O herwydd ei gefnogaeth brwd i achos y Rhyfel Byd Cyntaf cafodd Edwards ei ddenu gan fudiad o'r enw Cynghrair Gweithwyr Prydain a oedd yn ceisio hybu achos y rhyfel ym mysg y dosbarth gweithiol. Pan dynnodd y Blaid Lafur allan o'r Llywodraeth Clymblaid ar gyfer etholiad 1918 trodd y Gynghrair yn blaid wleidyddol llafuraidd a oedd yn parhau i gefnogi'r Glymblaid Y Blaid Democrataidd Cenedlaethol a Llafur (NDP). Safodd Edwards yn enw'r NDP yn etholaeth East Ham South yn Etholiad Cyffredinol 1918 gan gipio'r sedd. Bu'n gadeirydd grŵp seneddol yr NDP o 1918 i 1920. Methodd yn ei ymgais i ddal gafael ar ei sedd yn enw Rhyddfrydwr y Glymblaid yn etholiad 1922.
Bu Edwards farw o'r cancr yn Golders Green ym 1938 a'i amlosgi yn amlosgfa Golders Green.
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: George Thomas Kenyon | Aelod Seneddol dros Bwrdeistrefi Dinbych 1906 – 1910 | Olynydd: William Ormsby-Gore |
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
Rhagflaenydd: Alfred Thomas | Aelod Seneddol dros Dwyrain Morgannwg 1910 – 1918 | Olynydd: diddymu'r etholaeth |
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
Rhagflaenydd: etholaeth newydd | Aelod Seneddol dros East Ham South 1918 – 1922 | Olynydd: Alfred John Barnes |
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Allen Clement Edwards, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.