Dyn busnes Cymreig oedd Dr.
Alfred Joseph Gooding OBE LLB (Mawrth 1932 – 29 Ionawr 2018), a adnabyddwyd fel "Alf" Gooding. Cafodd yrfa dros 50 mlynedd yn y diwydiant adeiladu a chyfarpar electronig.
Alfred Gooding | |
---|---|
Ganwyd | Mawrth 1932 Rhisga |
Bu farw | 29 Ionawr 2018 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | entrepreneur |
Gwobr/au | OBE |
Fe'i ganwyd yn Rhisga, yn fab i lowr. Yn y 1950au cychwynnodd gwmni Modern Building Wales Limited a adeiladodd 7,000 o dai ar draws Cymru. Ei fenter mwyaf enwog oedd Catnic, cwmni a gydnabyddir am ddatblygu y capan dur (lintel) ar gyfer y diwydiant adeiladu. Yn 1982, roedd ei gwmni mewn achos yn Nhy'r Arglwyddi, "Catnic Components Ltd v Hill & Smith Ltd".
Bu Gooding yn gadeirydd CBI Cymru. Yn 2003, cychwynnodd ysgrifennu colofn wythnosol am fusnes yn y Western Mail. Yn 2010 derbyniodd gymrodoriaeth gan Brifysgol Cymru, Casnewydd.
Yn 2007, trefnodd Gooding gais i brynu'r banc Northern Rock a oedd mewn trafferthion ariannol.
Yn 2015, fe ddinistriwyd ei dŷ yn Rhiwderyn ger Casnewydd gan dân. Roedd Gooding yn byw yno gyda'i wraig Lavinia a fe wnaethon nhw ddianc heb niwed.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Alfred Gooding, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.