Ray Liotta: Actor a aned yn Newark yn 1954

Actor a cynhyrchydd ffilm Americanaidd oedd Raymond Allen Liotta (ganwyd Raymond Julian Vicimarli, 18 Rhagfyr 1954 - 26 Mai 2022) yn

Ray Liotta
Ray Liotta: Bywyd cynnar, Gyrfa, Bywyd personol
GanwydRaymond Allen Liotta Edit this on Wikidata
18 Rhagfyr 1954 Edit this on Wikidata
Newark, New Jersey Edit this on Wikidata
Bu farw26 Mai 2022 Edit this on Wikidata
o methiant anadlu, edema ysgyfeiniol,, methiant y galon Edit this on Wikidata
Gweriniaeth Dominica, Santo Domingo Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Miami
  • Institiwt Ffilm a Theatr Strasbwrg
  • Union High School Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor, cynhyrchydd ffilm, actor ffilm Edit this on Wikidata
Taldra1.8 metr Edit this on Wikidata
Pwysau86 cilogram Edit this on Wikidata
PriodMichelle Grace Edit this on Wikidata
PartnerCatherine Hickland Edit this on Wikidata
PlantKarsen Liotta Edit this on Wikidata
Gwobr/auPrimetime Emmy Award for Outstanding Guest Actor in a Drama Series Edit this on Wikidata

Roedd Liotta yn fwyaf adnabyddus am ei bortread o Henry Hill yn y ddrama drosedd Goodfellas (1990); mae roliau nodedig eraill yn cynnwys Ray Sinclair yn ffilm Jonathan Demme Something Wild (1986) a dderbyniodd enwebiad iddo am wobr Golden Globe. Bu'n portreadu Shoeless Joe Jackson yn y ffilm Field of Dreams (1989), yr heddwas Pete Davis yn Unlawful Entry (1992), yr heddwas Gary Figgis yn Cop Land (1997), Paul Krendler yn Hannibal (2001), Fred Jung yn Blow (2001), Tommy Vercetti yn y gêm fideo Grand Theft Auto: Vice City (2002), Prif swyddog heddlu Gus Monroe yn John C (2002), Samuel Rhodes yn Identity (2003), Markie Trattman yn Killing Them Softly (2012) a Peter Deluca yn The Place Beyond the Pines (2012).

Bu hefyd yn serennu fel y Lieutenant Matt Wozniak yn y ddrama deledu Shades of Blue (2016-2018)

Bywyd cynnar

Ganwyd Liotta yn Newark, New Jersey.  Cafodd ei fabwysiadu pan oedd yn chwe mis oed gan Mary Liotta, clerc, ac Alfred Liotta,  perchennog siop trwsio ceir, cyfarwyddwr personél, a llywydd lleol clwb y Democrataid . Mae ganddo chwaer, Linda Liotta, sydd hefyd wedi cael ei mabwysiadu.

Mae Liotta wedi dweud ei fod yn gwybod ers ei fod yn blentyn ifanc ei fod wedi ei fabwysiadu. Llwyddodd i gael hyd i'w mam fiolegol yn y 2000au.  Mae ganddo un hanner brawd, pump o hanner chwiorydd, ac yn chwaer lawn.

Mynychodd Ysgol Uwchradd Union New Jersey lle cafodd ei fagu.

Graddiodd Liotta o Brifysgol Miami, lle derbyniodd radd yn y celfyddydau cain ym 1978.

Gyrfa

Ar ôl gadael y coleg, symudodd Liotta i Ddinas Efrog Newydd, lle bu'n gweithio tu ôl i'r bar yn theatrau Shubert. Llwyddodd i gael lle ar lyfrau asiant actio o fewn chwe mis.

Un o rolau cynharaf Liotta oedd chwarae ran Joey Perrini yn yr opera sebon Another World. Ymddangosodd yn y sioe rhwng 1978 a 1981. Rhoddodd gorau i'r rôl fel y gallai roi cynnig ar y diwydiant ffilm, a symudodd i Los Angeles. Ei ffilm gyntaf oedd The Lonely Lady, lle roedd Pia Zadora yn ymosod yn rhywiol arno gyda phibell gardd yn y ffilm cwlt clasurol. Ei ran actio fawr gyntaf oedd yn y ffilm Something Wild (1986), a enillodd iddo ei enwebiad cyntaf am Golden Globe . . Ym 1989, bu'n gyd serennu gyda Kevin Costner yn y ffilm ffantasi / drama, Field of Dreams. Roedd Liotta yn chware ran Shoeless Joe Jackson, ysbryd y diweddar chwaraewr pêl fas enwog

Ray Liotta: Bywyd cynnar, Gyrfa, Bywyd personol 
Tommy Vercetti

Ym 1990, chwaraeodd Liotta y mobster Henry Hill yn ffilm Martin Scorsese, Goodfella.

Ym 1992, ynghyd â Kurt Russell a Madeleine Stowe, cafodd ei gastio yn y ffilm Unlawful Entry fel heddwas seicopathig. Roedd ganddo rôl flaenllaw hefyd yn y ffilm gwyddonias No Escape. Enillodd Liotta canmoliaeth am ei gyfraniad i'r ffilm Land Cop lle fu'n cyd actio â Sylvester Stallone, Robert De Niro a Harvey Keitel.

Yn ychwanegol at ei rolau ffilm, bu Liotta yn portreadu'r canwr Frank Sinatra ym 1998 yn y ffilm teledu The Rat Pack (gan dderbyn enwebiad am wobr Screen Actors Guild). Ef oedd llais y cymeriad Tommy Vercetti, yn y gêm fideo Grand Theft Auto: Vice City. Bu'n ymddangos yn y ddrama deledu ER yn 2004, yn chwarae Charlie Metcalf yn y bennod "Time of Death" ennill Liotta gwobr am y rôl Emmy fel "Actor Gwadd Rhagorol Mewn Cyfres Ddrama". Yn 2006 bu Liotta yn serennu yng nghyfres teledu cwmni CBS Smith. Yn 2012 bu yn ymddangos fel ei hun mewn rôl llais lleisiol mewn pennod o'r gyfres gomedi Phineas & amp; Ferb ar sianel deledu Disney.

Yn 2001 chwaraeodd Liotta ran tad y deliwr cyffuriau George Jung yn ffilm Johnny Depp Blow. Y flwyddyn ganlynol, ymddangosodd fel y Dirprwy Ditectif Henry Derw yn ffilm Joe Carnahan - Narc, rôl a arweiniodd at enwebiad am wobr Independent Spirit Award ac enwebiad am wobr gan Gymdeithas Beirniaid Ffilm Phoenix ar gyfer Actor Cefnogol Gwrywaidd Gorau.

Yn 2003 bu'n cyd actio â John Cusack ac Alfred Molina yn ffilm arswydias James Mangold Identity. Mae ef hefyd wedi lleisio rhaglenni dogfen megis Inside the Mafia ar gyfer y sianel National Geographic yn 2005. Ymddangosodd yn Smokin' Aces yn portreadu asiant FBI o'r enw Donald Carruthers.

Ymddangos gyda John Travolta yn y ffilm Wild Hogs, ymddangosodd yn Battle in Seattle fel maer y ddinas, ac yn Hero Wanted fel ditectif ochr yn ochr â Cuba Gooding Jr. Mae hefyd wedi ymddangos yn Crossing Over, yn cyd-serennu â Harrison Ford. Bu'n chwarae'r Ditectif Harrison yn ffilm comedi 2009 Jody Hill Observe and Report fel heddwas a phrif elyn cymeriad Seth Rogen. Yn 2011, roedd yn serennu yn The Son of No One gyda Channing Tatum ac Al Pacino.

Yn 2004, gwnaeth Liotta ei ymddangosiad Broadway cyntaf gyferbyn Frank Langella yn nrama Stephen Belber, Match.

Yn y 2010au bu Liotta yn actio yn Date Night, gyda Steve Carell, yn Charlie St. Cloud gyda Zac Efron, a'r dramau Snowmen, a The River Sorrow, lle fu'n chware rôl ditectif ar y cyd a Christian Slater a Ving Rhames. Bu'n cyd-weithio gyda Brad Pitt a James Gandolfini yn ffilm 2012 Andrew Dominik Killing Them Softly ac yn ffilm 2013 Ariel Vromen The Iceman gan chware ran Roy DeMeo. Bu'n chware rhan fach yn Muppets Most Wanted (2014).

Yn 2014, bu Liotta yn chware ran pregethwr yn y ffilm The Identical. a bu'n chware rhan gefnogol yn y ddrama trosedd Revenge of the Green Dragons, dan gyfarwyddyd Martin Scorsese.

Bu Liotta yn serennu yn y gyfres Gorllewin Gwyllt Texas Rising ar y History Channel yn 2015. Mae hefyd a rhannau yn Kill the Messenger gyda Jeremy Renner, Stretch gyda Chris Pine a David Guetta.

Ers mis Mehefin 2015, mae Liotta wedi lleisio cyfres dogfen llefarydd y AMC The Making of the Mob.

Ar hyn o bryd mae'n serennu fel y Lieutenant Matt Wozniak yn y ddrama deledu Shades of Blue (2016-presennol)

Bywyd personol

Priododd Liotta yr actores Michelle Grace ym mis Chwefror 1997 ar ôl iddynt gyfarfod mewn gêm pêl fas proffesiynol yr oedd ei chyn gŵr (Mark Grace) yn chwarae ynddi. Roedd y cwpl yn cyd-serennu yn The Rat Pack, lle'r oedd Liotta yn chwarae rhan Frank Sinatra a Grace yn chware ran Judith Campbell Exner. Mae ganddynt ferch, Karsen Liotta, a anwyd ym 1998. Mae'r cwpl wedi ysgaru ers 2004.

Ar 19 Chwefror, 2007, arestiwyd Liotta o dan amheuaeth o yrru o dan ddylanwad alcohol ar ôl damwain yn ei gar Escalade Cadillac.

Bu farw yn ei gwsg yn 67 mlwydd oed. Ar y pryd ar ganol ffilmio Dangerous Waters yng Ngweriniaeth Dominica.

Ffilmograffi

Blwyddyn Cynhyrchiad Rhan
2016-2018 Shades of Blue (Cyfres deledu) Matt Wozniak
2018 The Simpsons (Cyfres deledu) Morty Szyslak
2018 Great News (Cyfres deledu) Ray Liotta
2017 Young Sheldon (Cyfres deledu) Vincent
2017 Unbreakable Kimmy Schmidt (Cyfres deledu) Paulie Fiuccillo
2016 Broken Soldier Mr. Ancilla
2016 The Last Dance Jack Morehead
2016 Flock of Dudes Uncle Reed
2016 Modern Family (Cyfres deledu) Ray Liotta
2015 Timeshifters Bartender
2015 Go with Me Blackway
2015 Texas Rising (Cyfres deledu) Lorca
2015 Ed Sheeran Feat. Rudimental: Bloodstream (Fideo)
2014 The Money (Ffilm deledu) George Archer
2014 30 for 30 (Cyfres deledu ddogfen) Adroddwr
2014 Kill the Messenger John Cullen
2014 Revenge of the Green Dragons Michael Bloom
2014 Sin City: A Dame to Kill For Joey
2014 David Guetta Feat. Sam Martin: Lovers on the Sun (Fideo) Troseddwr
2014 The Identical Reece Wade
2014 Better Living Through Chemistry Jack Roberts
2014 Muppets Most Wanted Big Papa
2013 Suddenly Tod Shaw
2013 Pawn Man in the Suit
2013 Mob of the Dead (Gêm fideo) Billy Handsome (llais)
2013 The Devil's in the Details Dr. Robert Michaels
2012 Abominable Christmas (Ffilm deledu) Abominable Dad (llais)
2012 NTSF:SD:SUV (Cyfres deledu) Jason
2012 Dear Dracula (Fideo) Count Dracula (llais)
2012 Bad Karma Molloy
2012 Yellow Afai
2012 The Place Beyond the Pines Deluca
2012 The Iceman Roy Demeo
2012 Breathless Sheriff Cooley
2012 Killing Them Softly Markie Trattman
2012 Breakout Jim
2011 The League (Cyfres deledu) Ruxin's Boss
2011 The Entitled Richard Nader
2011 Field of Dreams 2: Lockout (byr) Roger Goodell
2011 The River Murders Jack Verdon
2011 Street Kings 2: Motor City (Fideo) Marty Kingston
2011 All Things Fall Apart Dr. Brintall
2011 The Details Peter Mazzoni
2011 The Son of No One Captain Marion Mathers
2010 The Death and Life of Charlie St. Cloud Florio Ferrente
2010 Hannah Montana (Cyfres deledu) Principal Luger
2010 Chasing 3000 Adult Mickey
2010 Snowmen Reggie Kirkfield
2010 Date Night Joe Miletto (heb credyd)
2010 Crazy on the Outside Gray
2009 Youth in Revolt Lance Wescott
2009 La linea Mark Shields
2009 Powder Blue Jack Doheny
2009 Observe and Report Detective Harrison
2009 Crossing Over Cole Frankel
2008 SpongeBob SquarePants (Cyfres deledu) Bubble Poppin Leader
2008 Hero Wanted Detective Terry Subcott
2007 Bee Movie Ray Liotta (llais)
2007 Battle in Seattle Maior Jim Tobin
2006-2007 Smith (Cyfres deledu) Bobby Stevens
2007 In the Name of the King: A Dungeon Siege Tale Gallian
2007 Wild Hogs Jack
2006 Smokin' Aces Donald Carruthers
2006 Comeback Season Walter Pearce
2006 Local Color John Talia Sr.
2006 Even Money Tom
2005 Slow Burn Ford Cole
2005 Revolver Dorothy Macha
2004 Control Lee Ray Oliver
2004 ER (Cyfres deledu) Charlie Metcalf
2004 The Last Shot Jack Devine
2003 Identity Rhodes
2002 Grand Theft Auto: Vice City (gêm fideo) Tommy Vercetti (llais)
2002 Point of Origin (Ffilm deledu) John Orr / Aaron Stiles
2002 John Q Chief Gus Monroe
2001-2002 Just Shoot Me! (Cyfres deledu) Ray Liotta
2002 Narc Henry Oak
2001 Family Guy (Cyfres deledu) Zack (llais)
2001 Blow Fred Jung
2001 Heartbreakers Dean Cumanno / Vinny Staggliano
2001 Hannibal Paul Krendler
2000 A Rumour of Angels Nathan Neubauer
2000 Pilgrim Jack
1999 Forever Mine Mark Brice
1999 Muppets from Space Gate Guard
1998 The Rat Pack (Ffilm deledu) Frank Sinatra
1998 Phoenix Harry Collins
1997 Cop Land Gary Figgis
1997 Turbulence Ryan Weaver
1996 Unforgettable David Krane
1995 Frasier (Cyfres deledu) Bob
1995 Operation Dumbo Drop Capt. T.C. Doyle
1994 Corrina, Corrina Manny Singer
1994 No Escape Capt. J.T. Robbins
1992 Unlawful Entry Officer Pete Davis
1992 Article 99 Dr. Richard Sturgess
1991 Women & Men 2: In Love There Are No Rules (Ffilm deledu) Martin Meadows
1990 Goodfellas Henry Hill
1989 Field of Dreams Shoeless Joe Jackson
1988 Dominick and Eugene Eugene Luciano
1987 Arena Brains (Short) The Artist
1986 Something Wild Ray Sinclair
1985 Our Family Honor (Cyfres deledu) Ed Santini
1984 Mike Hammer (Cyfres deledu) Tony Cable
1983 The Lonely Lady Joe Heron
1983 Casablanca (Cyfres deledu) Sacha
1983 St. Elsewhere (Cyfres deledu) Murray
1980-1981 Another World (Cyfres deledu) Joey Perrini
1981 Crazy Times (Ffilm deledu) Johnny 'Wizard' Lazarra
1980 Hardhat and Legs (Ffilm deledu) Family

Cyfeiriadau

Dolenni allanol

  • IMDb[dolen marw]
  • Ray Liotta ar Gronfa Ddata Rhyngrwyd Broadway Ray Liotta: Bywyd cynnar, Gyrfa, Bywyd personol 
  • Tarshis, Joan (Fall 2001). "One on One with Ray Liotta". Smoke Magazine. Archifwyd o'r gwreiddiol ar October 29, 2013. Cyrchwyd September 14, 2014.
  • Keier, Helen (March 1, 2001). "IGN: Interview with Ray Liotta". IGN.com. Cyrchwyd July 7, 2009.

Tags:

Ray Liotta Bywyd cynnarRay Liotta GyrfaRay Liotta Bywyd personolRay Liotta FfilmograffiRay Liotta CyfeiriadauRay Liotta Dolenni allanolRay Liotta18 Rhagfyr1954202226 MaiCynhyrchydd ffilmUnol Daleithiau America

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Pussy RiotLlwyau caru (safle rhyw)LinczIâr ddŵrCannu rhefrolBusnesDeadly InstinctHarry PartchYr AlmaenFfilm llawn cyffroPoner el Cuerpo, Sacar la VozYmdeithgan yr UrddJuan Antonio VillacañasGweriniaeth IwerddonLerpwlElinor JonesBydysawd (seryddiaeth)Corsen (offeryn)CombeinteignheadGwlad PwylBeach Babes From BeyondFreshwater WestRhydYmddeoliadNovialXXXY (ffilm)Andrew ScottHermitage, BerkshireSeneddOwen Morris RobertsOceaniaYasser ArafatArthropodCeniaSinematograffegThis Love of OursCynnwys rhyddTor (rhwydwaith)Llywodraeth leol yng NghymruGari WilliamsPafiliwn PontrhydfendigaidB. T. HopkinsUndduwiaethHeledd CynwalLaboratory ConditionsRiley ReidLlywodraethT. H. Parry-WilliamsBwrdeistref sirolReturn of The SevenAberystwythCyfieithiadau i'r GymraegJakartaAmaethyddiaethKyivGlasgwm, PowysCedorTomos yr ApostolSteffan CennyddTywodfaenÉcole polytechniqueGwasanaeth cyhoeddus (cwmni)KlaipėdaCôd postCaeredin🡆 More