Gwleidydd a chyfreithiwr o Gymru oedd Aled Roberts (17 Mai 1962 – 13 Chwefror 2022).
Roedd yn aelod o'r Democratiaid Rhyddfrydol. Cafodd ei ethol i Gyngor Bwrdeistref Wrecsam yn 1991, cyn cael ei wneud yn faer y fwrdeistref yn 2003, ac yna arweinydd y cyngor yn 2005. Roedd yn Aelod o'r Cynulliad dros Ranbarth Gogledd Cymru rhwng 6 Mai 2011 a 6 Mai 2016. Roedd hefyd wedi gweithio fel ymgynghorydd i Lywodraeth Cymru ar ddatblygu cynlluniau addysg Gymraeg. Fe'i benodwyd yn Gomisiynydd y Gymraeg yn 2019.
Aled Roberts | |
---|---|
Ganwyd | 17 Mai 1962 Rhosllannerchrugog |
Bu farw | 13 Chwefror 2022 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, Comisiynydd y Gymraeg, cyfreithiwr |
Swydd | Aelodau 4ydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru |
Plaid Wleidyddol | y Democratiaid Rhyddfrydol |
Ar 1 Ebrill 2019, fe'i penodwyd yn Gomisiynydd y Gymraeg, gan ddilyn Meri Huws. Treuliodd y tri mis cyntaf yn dod i adnabod anghenion Cymry ledled y wlad, er mwyn deall eu profiadau o ddefnyddio'r Gymraeg ac i ddeall beth sy'n cymell pobl sy'n medru siarad Cymraeg i ddefnyddio'r iaith, neu beidio gwneud hynny, yn eu bywydau bob dydd.
“ | Fe ges i fy magu ar aelwyd Gymraeg ei hiaith yn Rhos; ond Saesneg oedd iaith fy addysg. Er bod fy nghriw ffrindiau yn gallu siarad Cymraeg, Saesneg oedden ni'n ei siarad efo'n gilydd. Nid tan imi ddod adref am y Nadolig ar ôl treulio tymor cyntaf ym Mhrifysgol Aberystwyth y sylwais ein bod ni'n colli allan ar gymaint drwy beidio â siarad Cymraeg efo'n gilydd; ac felly mi wnaethon ni benderfyniad un noson i droi i siarad Cymraeg efo'n gilydd o hynny ymlaen. Doedd hi ddim yn hawdd newid, ac mi gymerodd ychydig fisoedd i ni ddod i arfer; ond mi oedd hi'n bosib, a Chymraeg ydyn ni wedi ei siarad efo'n gilydd byth wedyn. | ” |
Magwyd Aled yn Rhosllannerchrugog ac roedd yn byw yno gyda'i wraig a'i ddau fab. Mynychodd Ysgol y Ponciau, Ysgol y Grango ac Ysgol Rhiwabon cyn astudio'r gyfraith ym Mhrifysgol Aberystwyth. Roedd yn cymryd rhan weithgar yn ei gymuned, gan fod yn ysgrifennydd Capel Ebeneser a'r Stiwt.
Bu farw ar 13 Chwefror 2022 yn 59 mlwydd oed ar ôl salwch byr. Cafodd teyrngedau iddo ar draws llawr y Senedd, gan Gymdeithas yr iaith, ei gydweithwyr a'i ffrindiau.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Aled Roberts, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.