Un sy'n arbenigo mewn effeithiau ariannol ansicrwydd a pheryglon yw actiwari.
Mae actiwarïaid yn deall systemau diogelu ariannol yn drylwyr, gan ddefnyddio modelau mathemategol.
Enghraifft o'r canlynol | galwedigaeth |
---|---|
Math | ystadegydd, insurance expert |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae actiwarïaid yn cloriannu tebygolrwydd gwahanol ddigwyddiadau, ac yn meintioli'r canlyniadau a ddaw ohonynt. Eu hamcan yw lleihau'r colledion ariannol a emosiynol a ddaw yn sgîl digwyddiadau anymunol. Er enghraifft, gan nad oes modd osgoi marwolaeth, mae'n ddefnyddiol ceisio lleihau effeithiau ariannol marwolaeth. Mae ymafael â phroblemau o'r fath yn gofyn meistrolaeth o reoli asedau, rheoli rhwymedigaethau a phrisiad. Er mwyn llunio a chynnal cynlluniau sy'n rheoli risg, mae angen sgiliau dadansoddol yn ogystal â gwybodaeth ym meysydd busnes, ymddygiad dynol, a systemau gwybodaeth.
Yn 2002 a 2009, casgliad arolwg yn y Wall Street Journal oedd mai actiwariaeth oedd y swydd ail orau yn Unol Daleithiau America. Defnyddiodd yr arolwg chwe maen prawf: awyrgylch, incwm, rhagolygon cyflogi, gofynion corfforol, sicrwydd a straen.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Actiwari, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.