Mae Irisarri () yn bentref ac yn fwrdeistref yng Ngwlad y Basg, yn rhanbarth Nafarroa Beherea.
Math | cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 913 |
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
Daearyddiaeth | |
Sir | canton of Iholdy, Pyrénées-Atlantiques, Nafarroa Beherea, arrondissement Baiona |
Gwlad | Gwlad y Basg Ffrainc |
Arwynebedd | 26.39 km² |
Uwch y môr | 225 metr |
Yn ffinio gyda | Hélette, Iholdy, Jaxu, Ossès, Suhescun |
Cyfesurynnau | 43.2569°N 1.2336°W |
Cod post | 64780 |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Irissarry |
Mae afon Laka, sy'n llifo i afon Errobi, yn mynd trwy'r pentref. Hefyd rhai o lednentydd afon Laka: afonydd Elhur, Oihanhandia, Gatarri a Larhan.
Daeth pentref Irisarri i fodolaeth wrth adeiladu'r Ospitalea a sefydlwyd yn y 12g, tua'r flwyddyn 1150, gan Farchogion yr Ysbyty. Tua'r flwyddyn 1530 daeth dan reolaeth Urdd Malta.
Yn 1350, yr oedd 23 o dai yn Irisarri, a phob un ond dau yn perthyn i'r Marchogion, gyda'u preswylwyr yn cyflawni dyletswyddau gweinyddol.
Yn 1607, lansiodd Martin de Larrea, arglwydd Irisarri, y gwaith o ailadeiladu’r Ospitalea, gan greu un o adeiladau harddaf Nafarroa Beherea. Adnewyddwyd yr ystafell weddi hefyd a'i throi'n eglwys y pentref. Trawsnewidiwyd yr eglwys yn 1860.
Mae nifer o adeiladau i'w gweld yn y pentref, llawer ohonynt o'r 17gDyma rai adeiladau pwysig:
Mae economi'r ardal yn seiliedig ar amaethyddiaeth. Roedd y ffair hyrddod a oedd yn cael ei chynnal bob blwyddyn yn y dref yn boblogaidd iawn.
Mae'r pentref wedi'i leoli ar y ffordd Errobi, amrywiad o Ffordd Sant Iago. Defnyddiwyd y llwybr hwn gan bererinion i ar eu ffordd o o Baiona cyn croesi'r Pyreneau o Donibane Garazi.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Irisarri, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.