Mae Dynodwr Enw Rhyngwladol Safonol (Saesneg: International Standard Name Identifier ('ISNI') yn ddull o adnabod hunaniaeth unigryw cyfrannwyr i gyfryngau megis y we, llyfr, rhaglenni teledu neu albymau sain.
Mae'r dynodwr a ddefnyddir yn cynnwys 16 digid rhifol wedi'i rannu'n bedwar tamaid.
Enw llawn | Dynodwr Enw Rhyngwladol Safonol (International Standard Name Identifier) |
---|---|
Talfyriad | ISNI |
Cyflwynwyd | 15 Mawrth 2012 |
Corff safoni | ISNI-IA |
Nifer o ddigidau | 16 |
Enghraifft | 000000012146438X |
Gwefan | isni.org/ |
Fe'i datblygwyd gan Y Mudiad Rhyngwladol dros Safoni fel Safon Rhyngwladol Ddrafft yn gyntaf cyn ei dderbyn yn ffurfiol ar 15 Mawrth 2012. Fe'i defnyddir i wahaniaethu rhwng enwau pobl (yn enwedig o fewn y cyfryngau) y gellid, fel arall, eu cymysgu.
Mae dynodwyr ORCID (Open Researcher and Contributor ID) yn flociau o ddynodwyr ISNI a ddefnyddir ar gyfer y byd academaidd yn bennaf. a gaiff ei weinyddu gan gorff cwbwl wahanol. Gall ymchwilwyr yma greu a hawlio dydnodwyr ORIC eu hunain. Mae'r ddau fudiad yn cydweithio'n agos a'i gilydd.
Mae gan Wicidata briodwedd, P213, am ISNI (gweler y defnydd ohono) |
Mae gan Wicidata briodwedd, P213, am ISNI (gweler y defnydd ohono) |
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Dynodwr Enw Rhyngwladol Safonol, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.