Ynysoedd oddi ar arfordir gogledd-gorllewinol yr Alban yw Ynysoedd Allanol Heledd neu Yr Ynys Hir, (Gaeleg yr Alban: Na h-Eileanan Siar, Saesneg: Outer Hebrides).
Noder fod Na h-Eileanan Siar weithiau yn cael ei ddefnyddio am y cyfan o Ynysoedd Heledd. An Cliseam ar ynys Na Hearadh (Harris) yw copa uchaf yr ynysoedd. Yr enw ar yr etholaeth seneddol (y DU) yw Na h-Eileanan an Iar.
Math | ynysfor, un o gynghorau'r Alban, lieutenancy area of Scotland, Scottish islands area |
---|---|
Prifddinas | Steòrnabhagh |
Poblogaeth | 26,720 |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Ynysoedd Heledd |
Gwlad | Yr Alban |
Arwynebedd | 3,058.7026 km² |
Gerllaw | Cefnfor yr Iwerydd |
Cyfesurynnau | 57.76°N 7.02°W |
Cod SYG | S12000013 |
GB-ELS | |
Yr ynysoedd hyn yw cadarnleoedd iaith Gaeleg yr Alban.
Ystyr "heledd" yw "pwll o ddŵr hallt" a cheir y gair "hal" neu "hel" (sef halen) ar ddechrau Hel-edd. Mae'n bosib, hefyd, ei fod yn tarddu o'r gair Gaeleg am "ynys", sef Eilean.
Yr ynysoedd sydd a phobl yn byw arnynt yw:
Ynys | Poblogaeth (2001) |
Leòdhas a Na Hearadh (Lewis a Harris) | 19,918 |
De Uist | 1,818 |
Gogledd Uist | 1,271 |
Benbecula | 1,219 |
Barraigh | 1,078 |
Sgalpaigh na Hearadh | 322 |
Bernera Fawr | 233 |
Griomasaigh | 201 |
Beàrnaraigh | 136 |
Eirisgeidh | 133 |
Bhatarsaigh | 94 |
Baile Sear | 49 |
Grimsay, De-ddwyrain Benbecula | 19 |
Flodaigh | 11 |
CYFANSWM (2001) | 26,502 |
Ymhlith yr ynysoedd sydd bellach heb boblogaeth, mae ynysoedd Sant Kilda, y pellaf tua'r gorllewin, sy'n awr yn Safle Treftadaeth y Byd.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Ynysoedd Allanol Heledd, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.