Cyfres o lyfrau taith ar fröydd a siroedd Cymru yw Cyfres Crwydro Cymru, a gyhoeddwyd gan gwmni cyhoeddi Llyfrau'r Dryw (sefydlwyd yn Llandybie yn 1940 gan y llenor Aneirin Talfan Davies a'i frawd Alun Talfan Davies).
Dechreuwyd eu cyhoeddi yn 1952 a chafwyd 18 o gyfrolau erbyn canol y 1980au.
Bwriad y gyfres oedd cyflwyno hanes, topograffi a diwylliant hen siroedd a bröydd traddodiadol Cymru ar lun llyfrau taith yng nghwmni llenor adnabyddus sy'n adnabod yr ardal yn dda. Roedd y llenorion hynny yn cynnwys Aneirin Talfan Davies, T. I. Ellis, Bobi Jones, Frank Price Jones, Alun Llywelyn-Williams, Gomer M. Roberts a Ffransis G. Payne. Yn ogystal â bod yn arweinlyfrau da, rhan o apêl y gyfres i'r darllenydd heddiw yw'r darlun o gymdeithas Gymraeg y 1950au a'r 1960au a geir ynddynt, a hynny mewn cyfnod pan ymestynnai'r Fro Gymraeg dros ran sylweddol o Gymru.
Yn ddiweddarach ymestynwyd cynllun gwreiddiol y gyfres i gynnwys llyfrau Crwydro am lefydd y tu allan i Gymru, e.e. Ynysoedd Heledd a Llydaw.
Yn nhrefn eu cyhoeddi
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Cyfres Crwydro Cymru, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.