Y Gymdeithas Lenyddol Frenhinol

Cymdeithas ddysgedig i lenorion ac elusen er hyrwyddo llenyddiaeth yn y Deyrnas Unedig yw'r Gymdeithas Lenyddol Frenhinol (Saesneg: Royal Society of Literature, RSL).

Lleolir ei phencadlys yn Somerset House, Dinas Westminster, yn Llundain.

y Gymdeithas Lenyddol Frenhinol
Mathcymdeithas ddysgedig, academi cenedlaethol Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1820 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirLlundain Fwyaf
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Sefydlwydwyd ganSiôr IV, brenin y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata

Sefydlwyd y Gymdeithas Lenyddol Frenhinol ym 1820 gan y Brenin Siôr IV, ar gynnig Thomas Burgess, Esgob Tyddewi, i "wobrwyo haeddiant llenyddol ac ennyn dawn lenyddol". Rhoddwyd swm o 1,100 gini yn nawdd cychwynnol gan y brenin i'r gymdeithas newydd: y rhan fwyaf i'w rhoi yn bensiwn o gant gini'r un i ddeng Aelod Brenhinol, a'r cant yn weddill yn wobr am draethawd. Ymhlith y ddeng aelod cyntaf oedd yr economegydd Thomas Malthus a'r bardd Samuel Taylor Coleridge. Cyhoeddwyd erthyglau a thrafodion yr RSL (Transactions) yn rheolaidd hyd at ohirio'r rheiny yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Ailgychwynnwyd y gyfres ym 1921, dan yr enw Essays by Divers Hands.

Mae gan yr RSL ryw 600 o Gymrodorion etholedig. Yn ogystal, dewisir Cymrodorion Anrhydeddus o ddiwydiant cyhoeddi a chylchoedd llenyddol y Deyrnas Unedig, gan gynnwys cyhoeddwyr, asiantau, llyfrgellwyr, a gwerthwyr llyfrau. Ers 1961, rhoddir y teitl Cydymaith i lenorion amlwg yn yr iaith Saesneg. Y deg Cydymaith cyfredol yw Syr Michael Holroyd, Syr Tom Stoppard, Michael Frayn, Margaret Atwood, Alice Munro, Anita Desai, Kazuo Ishiguro, Edna O'Brien, Philip Pullman, a Colin Thubron. Mae aelodaeth gyffredin yr RSL yn agored i bawb, am dâl blynyddol. Mae'r RSL yn noddi darlleniadau a darlithoedd, yn cynnig gwobrwyon (gan gynnwys Medal Benson a Gwobr Stori Fer V. S. Pritchett), ac yn ymgyrchu ar faterion o ddiddordeb i lenorion.

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

Darllen pellach

  • Isabel Quigly, The Royal Society of Literature: A Portrait (Llundain: Royal Society of Literature, 2000).

Dolen allanol

Tags:

Y Gymdeithas Lenyddol Frenhinol Gweler hefydY Gymdeithas Lenyddol Frenhinol CyfeiriadauY Gymdeithas Lenyddol Frenhinol Darllen pellachY Gymdeithas Lenyddol Frenhinol Dolen allanolY Gymdeithas Lenyddol FrenhinolDinas WestminsterLlenorLlenyddiaethLlundainSaesnegSefydliad elusennolY Deyrnas Unedig

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Boynton Beach, FloridaLlyfr Mawr y PlantThomas Gwynn JonesRichie ThomasMawnXXXY (ffilm)Y DiliauLlwyn mwyar duonLee TamahoriCroatia1937TrosiadHeather JonesThe Moody BluesHeledd CynwalMynediad am DdimRhyfel FietnamAthaleiaMET-ArtGregor MendelNASACondomOsteoarthritisFideo ar alwOperation SplitsvilleJimmy WalesL'acrobateElinor JonesCyfrifiad y Deyrnas Unedig 20111986Dydd Mawrth1932Hidlydd coffiYsgrifennwrEl Complejo De FelipeArddegauKCabinet y Deyrnas UnedigBBC Radio CymruArdal y RuhrDehongliad statudolFfilm droseddAserbaijanLaosTwo For The MoneyJapanAlwminiwmSir BenfroDewiniaeth CaosCariadSinematograffyddCentral Coast (New South Wales)RhaeDiserthAlldafliadMoliannwnBlogCaerdyddAlwyn HumphreysSisters of AnarchyNaturBatri lithiwm-ionCarles PuigdemontAmerican Broadcasting CompanyEfrogAmserGareth Yr Orangutan1812 yng NghymruSaesnegDaeargryn Sichuan 2008AnilingusYsgol Gyfun Maes-yr-YrfaLlanfair PwllgwyngyllMons veneris🡆 More