Roedd William Addams Williams Evans (Medi 1853 - 23 Ebrill 1919) yn eglwyswr Gymreig a chwaraeodd i dîm pêl-droed cenedlaethol Cymru, yn y ddwy gêm ryngwladol gyntaf ym 1876 a 1877 cyn ddilyn gyrfa fel gweinidog yn Eglwys Loegr.
William Addams Williams Evans | |
---|---|
Ganwyd | Medi 1853 Brynbuga |
Bu farw | 23 Ebrill 1919 Llandegfedd |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | pêl-droediwr, offeiriad |
Chwaraeon | |
Tîm/au | Oxford University A.F.C. |
Safle | amddiffynnwr |
Gwlad chwaraeon | Cymru |
Ganed Evans ym Mrynbuga, Sir Fynwy, yn fab i'r Parch William Evans y ficer lleol a Caroline Frances, merch William Addams-Williams , Castell Llangybi, Aelod Seneddol Sir Fynwy, ar ôl yr hwn y cafodd ei enwi.
Ar ôl cwblhau ei addysg yn Ysgol Amwythig lle fu'n aelod o dîm criced yr ysgol, aeth Evans i Goleg Sant Ioan, Rhydychen ym 1872 lle raddiodd ym 1877 fel Baglor yn y Celfyddydau ac yna ordeiniwyd ef fel Curad yn Eglwys Loegr.
Gwasanaethodd Evans fel curad yn Barwell, Swydd Gaerlŷr am chwe blynedd cyn cyfnodau byr yn Eglwys yr Holl Saint, Northampton a Harrowden, Swydd Bedford.
Ym 1885, dychwelodd i Sir Fynwy i wasanaethu fel rheithor Llandegfedd, lle y bu hyd ei farwolaeth ym 1919.
Tra ym Mhrifysgol Rhydychen, chwaraeodd Evans i dîm pêl-droed y brifysgol ond methodd i ennill glas. Ym 1876, atebodd hysbyseb a osodwyd gan Llewelyn Kenrick yn "The Field" i chwilio am chwaraewyr o Gymru i gynrychioli eu gwlad mewn gem yn erbyn Yr Alban.
Evans oedd yr unig chwaraewr o Dde Cymru a ddewiswyd ar gyfer XI rhyngwladol cyntaf Cymru, gyda phob chwaraewr arall yn dod o'r gogledd (ac eithrio John Hawley Edwards a aned yn yr Amwythig ac oedd wedi cynrychioli tîm pêl-droed cenedlaethol Lloegr yn flaenorol). Chwaraewyd y gêm yn Hamilton Crescent, Partick, ar 25 Mawrth 1876 collodd Cymru'r gêm o 4 gôl i ddim.
Chwaraewyd gêm gartref yn erbyn yr Alban ar y Cae Ras, Wrecsam ar Fawrth 5, 1877, gydag Evans yn cadw ei le yn yr amddiffyn. Bu'r Albanwyr yn fuddugol eto, gan ennill 0-2, gydag un o'r goliau yn cael ei sgorio gan Evans yn ei rwyd ei hun.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article William Addams Williams Evans, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.