Mae gan ddefnyddwyr ddwy brif ffordd i gysylltu â Wicipedia:
Y gymuned olygyddol sy'n gyfrifol am bron pob penderfyniad am gynnwys erthygl ac anghydfodau golygyddol. Ceir prosesau manwl i helpu datrys anghydfodau. Gyda'r mwyafrif llethol o achosion, caiff anghydfodau eu datrys gan y gymuned, yn ôl cytundeb cymunedol a gytunir gan Bolisïau a chanllawiau'r Wicipedia Cymraeg.
Mae'r ebost mnewnol Wici (ewch i dudalen defnyddiwr ac fel arfer fe welwch ei ebost ar y chwith) yn galluogi rhai problemau i gael eu harchwilio gan y tîm ymateb gwirfoddol (e.e. Gweinyddwyr) mewn materion golygyddol a materion eraill sy'n effeithio ar gyfranwyr a darllenwyr. Mae'r ebost yn ddull effeithiol mewn achosion lle mae delio â'r sefyllfa mewn modd gyfrinachol yn bwysig. Gelwir y defnyddwyr profiadol hyn yn "dîm ymateb gwirfoddol".
Gwneir penderfyniadau golygyddol cyffredinol gan y gymuned olygyddol; byddant yn cynghori ac yn gweithredu mewn rhai achosion, ond ni fyddant yn anwybyddu nac yn newid penderfyniadau cymunedol heb fod cefnogaeth o'r gymuned.
Lle i fynd? Y drefn arferol ydy: 1. Nodi'r ffeithiau ar y Dudalen Sgwrs neu'r Ddesg Gyfeiriol. 2. Nodi ar Sgwrs Wicipedia:Gweinyddwyr 3. Y Caffi 4. Mewn materion sensitif anfonwch ebost at un o'r tîm ymateb gwirfoddol. 5. Ebostiwch Wici Cymru: wicipediacymraeggmail.com
Pryd i beidio cysylltu efo ni
Pan fo problem mewn erthygl amdanoch chi neu rywun rydych yn ei gynrychioli. Ateb: Sgwennwch nodyn i'r perwyl ar y Dudalen Sgwrs. Os na chewch unrhyw ymateb rhowch {{Helpwch}} ar eich tudalen sgwrs, a bydd un o'n golygyddion profiadol yn ymweld â chi yno!
Mae problem mewn erthygl am eich menter, sefydliad neu gymdeithas. Ateb: Sgwennwch nodyn i'r perwyl ar Dudalen Sgwrs yr erthygl neu'r Defnyddiwr, neu gofynwch gwestiwn yn Y Ddesg Gyfeirio.
Pan fo camgymeriad neu wall ffeithiol mewn erthygl. Ateb: Cywirwch y ffaith a nodwch y gyfeiriadaeth sy'n profi eich bod yn gywir.
Mae yna fandaliaeth megis gosod dwli mewn erthygl e.e. sylwadau neu ddelweddau. Ateb: Sgwennwch nodyn i'r perwyl ar y Dudalen Sgwrs. Os nad yw hyn yn llwyddo yna cysylltwch gydag un o'r tîm ymateb gwirfoddol drwy ebost.
Mae erthygl wedi defnyddio cynnwys sydd o dan hawlfraint person neu gorff arall a hynny heb ganiatâd. Ateb: Sgwennwch nodyn i'r perwyl ar y Dudalen Sgwrs. Os nad yw hyn yn llwyddo yna cysylltwch gydag un o'r tîm ymateb gwirfoddol drwy ebost.
Rydych chi eisiau dileu neu ddadwneud testun mewn erthygl. Ateb: Gwnewch hynny! Byddwch ddewr!
Rydych chi eisiau gwneud cais i symud tudalen neu newid teitl yr erthygl. Ateb: Sgwennwch nodyn i'r perwyl ar y Dudalen Sgwrs.
Pryd i gysylltu efo ni
Os methwch gydag un o'r uchod yna cysylltwch â ni ar unwaith.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Wicipedia:Cysylltwch â ni am gymorth, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses. ®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.