Defnyddwyr sydd â galluoedd arbennig ganddynt yw'r gweinyddwyr, sy'n gallu perfformio tasgau cynnal a chadw ar Wicipedia.
Nid y gweinyddwyr sydd yn penderfynu ar y tasgau, heblaw ei bod yn dasg amlwg neu angen ei gweithredu yn ddiymdroi (e.e., dileu lluniau sydd wedi eu huwchlwytho heb ganiatâd perchennog yr hawlfraint). Yn hytrach â hyn, gweithredu penderfyniadau cymuned Wicipedia yw eu swyddogaeth. Maent yn ddefnyddwyr eu hunain, sydd yn ymgymryd â'r gwaith gweinyddol ychwanegol yn ddi-dâl. Eu prif ddyletswyddau yw diogelu a dileu tudalennau, golygu tudalennau sydd wedi eu diogelu, rhwystro defnyddwyr, a dadwneud y gweithredoedd hyn i gyd hefyd.
Biwrocratiaid yw'r rhai sydd â phwerau uwch fyth ganddynt (gweler Wiki), a'r rhain sydd yn arfogi gweinyddwr. Os ydych am gynnig chi eich hunan neu ddefnyddiwr arall i fod yn weinyddwr gallwch wneud hynny ar y caffi. Mae'n arferol disgwyl i gael eilydd neu ddau o blith y defnyddwyr cyn i fiwrocrat greu gweinyddwr. Mae'n rhaid i ddefnyddiwr gydsynio i fod yn weinyddwr cyn cael ei wneud yn weinyddwr. Nid oes terfyn ar gyfnod penodiad fel gweinyddwr ond fe all pwerau gweinyddwr gael eu tynnu oddi arno. Gall hyn ddigwydd ar gais y gweinyddwr ei hunan. Mewn achosion lle y camddefnyddiwyd pwerau gweinyddwr gall stiward ddileu ei statws gweinyddwr yn unol â phenderfyniad gan Jimbo Wales neu'r pwyllgor cyflafareddu (gweler Wiki am eglurhad pellach).
Rhain yw'r prif dasgau y gall gweinyddwyr eu gwneud:
Os ydych am newid rhywbeth ar dudalen sydd wedi ei ddiogelu eglurwch y newid ar y dudalen sgwrs a rhowch y nodyn {{Atsylwgweinyddwr}} ar y dudalen sgwrs. Os ydych am newid rhywbeth yn y rhyngwyneb heb wybod teitl y neges i'w newid gallwch godi'r mater ar y Caffi neu Wicipedia:Cymorth iaith, gan nodi'r neges wreiddiol a'r dudalen y daethoch ar draws y neges arni. Oherwydd bod newid y ffeiliau pwysicaf megis Monobook.css yn gallu gwneud niwed i'r rhyngwyneb neu i'r wefan gyfan digon posib y bydd yn rhaid galw am gymorth datblygwyr y meddalwedd ar Mediawiki er mwyn diwygio rhai ffeiliau.
Os oes angen cymorth gweinyddwr arnoch, cewch naill ai -
Gan fod criw'r Wicipedwyr Wicipedia Cymraeg yn fach o'i gymharu â Wikipedia Saesneg mae'r ymateb i geisiadau yn gallu bod yn arafach o lawer nag yw hi ar Wiki Cymraeg. Mae weithiau'n gallu bod yn anodd dirnad ystyr diffyg ymateb i gynnig – ai diffyg cefnogaeth sydd wrth ei wraidd ynteu dim gwrthwynebiad i'r cynnig, neu ddiffyg amser i ystyried pob trafodaeth ac ymateb iddynt. Mae tuedd wedi datblygu i gymryd bod cynnig yn dderbyniol os na fynegir unrhyw wrthwynebiad iddo. Os na chewch ymateb i gais am help gweinyddwr peidiwch â digalonni – rhowch nodyn i'w hatgoffa ar y Caffi ar ôl rhai wythnosau.
Ceir rhagor o fanylion am weinyddwyr ar y Wikipedia Saesneg.
Os yw gweinyddwr yn camddefnyddio ei bwerau, gall dynnu'r pwerau hyn. Y bobl sy'n gallu tynnu statws gweinyddwr ydy Jimmy Wales, stiwardiaid, neu ar gais y Pwyllgor Cyflafareddu. Yn ôl eu disgresiwn, efallai y bydd cosbau llai hefyd yn cael eu hasesu yn erbyn gweinyddwyr problemus, gan gynnwys cyfyngu ar eu defnydd o bwerau penodol neu eu rhoi ar brawf gweinyddol. Mae'r gallu technegol i dynnu statws gweinyddwr yn gorwedd gyda'r stiwardiaid, biwrocrats a Jimmy Wales.
Bu nifer o weithdrefnau a awgrymwyd ar gyfer tynnu statws gweinyddwr sy'n atebol i'r gymuned, ond nid oes yr un ohonynt wedi cyrraedd consensws. Bydd rhai gweinyddwyr yn sefyll am ail-gymeradwyaeth yn ôl eu ceisiadau eu hunain o dan amgylchiadau penodol; gweler #Ail-gymeradwyaeth wirfoddol. Gall defnyddwyr ddefnyddio'r proses datrys anghydfod i ofyn am sylwadau ar addasrwydd gweinyddwr.
Removal of rights does not currently show up in the usual user logs. Use {{Userrights|username}}
for full links to user rights information and full logs, including the stewards' global logs on meta as well, or Special:ListUsers to verify a users' current rights. See: Bugzilla:4055.
Os nad yw Gweinyddwr wedi cyfrannu mewn unrhyw ffordd i Wici-cy yna gellir diddymu ei statws fel Gweinyddwr. Ni ddylid ystyried y cam hwn yn gam di-droi'n-ôl. Dylid cysylltu a'r Gweinyddwr ar ei ddalen Defnyddiwr (sgwrs) ac ar ei ebost - os ydy hynny'n bosib. Os nad ydyw wedi ymateb ar ôl mis, dylid ail-wneud y ddau beth yma. Os ydyw yn dal heb ymateb ymhen wythnos yna rhoddir hawl i Fiwrocrat i ddiddymu statws - ac felly hawliau'r Gweinyddwr. Dylid nodi yn log hawliau'r defnyddiwr ac ar dudalen sgwrs y defnyddiwr pam y gwnaed y penderfyniad ac mai gweithred dros dro ydyw ac y gellir ei ail-wneud yn Weinyddwr. Os yw'r Gweinyddwr yn ail-ddechrau cyfrannu i Wici-cym, yna rhoddir hawl i Fiwrocrat ail-alluogi'r Gweinyddwr, heb sgwrs pellach ar y mater, cyn belled y gwyddom gan-y-cant eidentiti'r Defnyddiwr.
Fel mae pethau heddiw yn 2023, yr Arbitration Committee sydd a'r hawl i ddileu statws Gweinyddwyr ar cywici. Rydym, fel cymuned, wedi trafod a chytunwyd yn unfrydol yn y Caffi, y dylem gael yr hawl i wneud hyn ein hunain. Nhw hefyd sy'n delio gyda chyhuddiadau difrifol.
Mae'r rhestr ddiweddaraf ar waelod yr adran.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Wicipedia:Gweinyddwyr, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.