Santes o ddiwedd y 5g oedd Gwen (hefyd Wenna).
Roedd yn ferch i Anhun ferch Gwrthyfer a Cynyr o Gaer Gawch, Penfro. Roedd hi'n chwaer i Ina, Non a Nectan ac yn hanner chwaer i Banadlwen.
Wenna | |
---|---|
Dinasyddiaeth | Cymru |
Ganwyd a magwyd hi yng Nghymru ond symudodd i Gernyw lle priododd Selyf o Gernyw. Roedd yn fam i Nwyalen a Chybi. Mae'n debyg fod ei brawd Nectan a'i chwaer Non wedi ei dilyn i Gernyw. Bu hi farw yn 544.
Ceir sawl eglwys wedi'u henwi ar ei hôl gan gynnwys Eglwys Sen Gwenna (Saesneg: St Wenn) ger Bodmin yng ngogledd Cernyw ac Eglwys Lanndohow (Saesneg: St Kew) a Cheristowe, Stoke-by-Hartland yn Nyfnaint.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Wenna, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.