Uwch-destun (hypertext yn Saesneg) yw testun cyfrifiadurol sy'n arwain i le arall - fel arfer i wybodaeth arall megis tudalen, sain neu fideo.
Mae hyn, felly, yn fath o ryngwyneb derbyniol i'r defnyddiwr fforio o un lle i'r llall yn rhwydd ac yn hwylus. Mae testun traddodiadol yn statig gyda chyfyngiadau pendant iddo, ond mae uwch-destun, fodd bynnag, yn ddull hawdd o roi trefn ar ddata a gwybodaeth arall drwy ddolennau a chysylltiadau megis uwch-ddolennau (neu 'hyperlinks').
Wrth hofran eich cyrchwr uwch-ben rhai mathau o uwch-destun gallwch ganfod swigen yn llawn gwybodaeth ychwanegol, er enghraifft, gydag eglurhad pellach. Ar fath arall, drwy glicio ar y gair, gall lwytho fideo neu raglen.
Ar ddechrau'r erthygl hon, fe welwch y gair cyfrifiadurol mewn glas. Mae hyn yn enghraifft o uwch-destun sy'n dolennu i erthygl arall ar Wici.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Uwch-destun, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.