Adeiladwyd y lein reilffordd Tramffordd Pumlumon a Hafan (Saesneg: Plynlimon and Hafan Tramway) 7 milltir o hyd ym 1897 i wasanaethu pyllau plwm Bwlch Glas a chwareli yn ymyl Hafan.
Caewyd y lein ar ôl 3 blynedd. Gobeithiwyd adeiladu rheilffordd o'r pyllau a chwareli at y môr yn ymyl Ynyslas, ond gwrthodwyd caniatád gan Reilffordd y Cambrian rhag croesi eu lein rhwng Machynlleth ac Aberystwyth. Roedd yn rhaid i'r tramffordd fynd i Lanfihangel a throsglwyddo nwyddau i Reilffordd y Cambrian. Roedd seidins i'r gogledd o orsaf reilffordd Llandre.
Dechreuodd gwasanaeth i deithwyr ar 28 Mawrth 1898, gan redeg ar dydd Llun yn unig ac yn cysylltu â gwasanaeth y Cambrian i Aberystwyrh ar ddiwrnod y farchnad.
Roedd gan y gwmni 3 locomotif:-
Locomotif 0-4-0 efo boeler unionsyth a adeiladwyd gan John Slee a Chwmni yn Warrington. Daeth i'r tramffordd ar 12 Mai, 1897. Disodlwyd hwn gan 'Talybont'.
Locomotif 2-4-0T a adeiladwyd gan Gwmni Bagnall yn wreiddiol ar gyfer cwsmer ym Mrasil ond canslwyd ei archeb, felly aeth y locomotif i Dramffordd Pumlumon a Hafan. Gweithiodd o Lanfihangel i waelod yr inclein yn Hafan.
Locomotif 0-4-0ST Bagnall a weithiodd yn y chwarel uwchben yr inclein. Ailbrynwyd gan Bagnall ym 1901 a gweithiodd ar waith adeiladu Cronfa Ddŵr Walshaw Dene, Halifax, ac erbyn 1920 roedd ym meddiant Cwmni Coed Bedley yn Nairn, Yr Alban.
Roedd gan y dramffordd un cerbyd. Mae copi ohono ar Reilffordd Ager Launceston erbyn hyn. Aeth rhai o'r wageni i Reilffordd Dyffryn Rheidol ac maent wedi goroesi hyd at heddiw.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Tramffordd Pumlumon a Hafan, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.