Bardd ac awdur Cymreig oedd Tom Parri Jones (1905–1980), sy'n adnabyddus am ei straeon byrion ffraeth.
Roedd yn frodor o Ynys Môn, lleoliad nifer o'i straeon.
Tom Parri Jones | |
---|---|
Ganwyd | 1905 Ynys Môn |
Bu farw | 1980 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bardd |
Dim ond ychydig o addysg ffurfiol a gafodd. Gadawodd yr ysgol yn 13 oed i weithio ar fferm ei dad. Fe'i trawyd gan polio yn ifanc a bu'n dioddef ohono am weddill ei oes.
Roedd yn fardd crefftus. Enillodd Goron yr Eisteddfod Genedlaethol am y gerdd Y Bont yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llandudno 1963, a'r Gadair hefyd.
Fe'i cofir yn bennaf am ei straeon byrion ysgafn a llawn hiwmor am fywyd gwerin Môn. Enillodd y Fedal Ryddiaith am y gyfrol Teisennau Berffro yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llangefni 1957. Bu'n orweddiog oherwydd y polio am gyfnodau hir wrth ysgrifennu'r olaf o'r straeon hyn.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Tom Parri Jones, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.