Tlws sy'n cael ei gyflwyno i enillwyr cystadleuaeth Cwpan y Byd FIFA ydy Tlws Cwpan y Byd FIFA.
Mae dau dlws wedi bodoli ers sefydlu cystadleuaeth Cwpan y Byd ym 1930: Tlws Jules Rimet rhwng 1930 a 1970, a Thlws Cwpan y Byd FIFA ers 1974 hyd heddiw.
Enghraifft o'r canlynol | sports award |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1930 |
Dechreuwyd | 1974 |
Gwefan | http://www.fifa.com/aboutfifa/organisation/marketing/brand/trophy.html |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cerflun o Nike, duwies buddugoliaeth y Groegwyr oedd y tlws gwreiddiol a wnaed o arian eurog a lapis lazuli. Llwyddodd Brasil i ennill y tlws am y trydydd tro ym 1970 ac o'r herwydd cafodd Brasil gadw'r tlws a chomisiynwyd tlws newydd ar gyfer Cwpan y Byd 1974.
"Tlws Cwpan y Byd FIFA" ydy enw'r tlws newydd. Darlun dau berson yn dal y byd ydy'r cerflun aur 18 karat sy'n 36.8 cm o uchder ac yn pwyso 6.1 kg. Yr Almaen yw deiliaid presennol y tlws ar ôl ennill Cwpan y Byd 2014.
Tlws Jules Rimet
Tlws Cwpan y Byd FIFA
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Tlws Cwpan y Byd FIFA, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.