Tafodieitheg

Diffinnir tafodieitheg fel ‘gwyddor tafodieithoedd’ neu ‘the systematic study of dialect’.

Math o iaith a ddefnyddir mewn man penodol yw tafodiaith. Weithiau cyfeirir at dafodieithoedd cymdeithasol, ffurfiiau ar iaith a siaredir gan grŵp cymdeithasol penodol. Mae pob math o iaith sy'n nodweddiadol o ardal neu ranbarth neu wlad arbennig yn dafodiaith, ond weithiau defnyddir y termau tafodiaith neu dafodiaith draddodiadol i ddynodi ffurf wledig ar iaith a siaredir mewn ardal cyfyng ac sy'n wahanol iawn i'r iaith safonol. Gwneir felly cyferbyniad rhwng tafodieithoedd safonol neu dafodieithoedd dinesig neu ranbarthol a thafodieithoedd lleol. Gwahaniaethir hefyd rhwng acen a thafodiaith: mae acenion un iaith yn gwhaniaethu oddi wrth ei gilydd drwy ynganiad gwahanol, ond mae gwahaniaethau rhwng tafodieithoedd yn cwmpasu nodweddion gramadegol (gan gynnwys morffoleg a cystrawen) hefyd.

Diffinio ffiniau tafodieithoedd

Evans a Davies (2000): “Daeth geiriau megis jwmpo, deseido, canslo, enjoyo ac iwso yn rhan annatod o’n hiaith, a’r tristwch yw na ŵyr y to ifanc yn well”. Anghywir yw'r dyfyniad - mae’r geiriau wedi cael eu defnyddio ers canrifoedd. Dyma enghraifft o bobl yn delfrydu’r gorffennol wrth ddelfrydu iaith safonol - ond ni ellir stopio iaith rhag newid. Yn naturiol, bydd pob cenhedlaeth yn meddwl eu bod yn well. Anodd iawn yw dweud fod gair yn dod o un ardal benodedig: Francis (1985) “It appears… that we cannot precisely define our subject matter… dialect boundaries are usually elusive to the point of non-existence”. Ceir agwedd ramantus tuag at y tafodieithoedd yn deillio’n ôl canrifoedd.

Gwahaniaethu rhwng ieithoedd a thafodiethoedd

Amrywiadau oddi mewn un iaith yw ei thafodieithoedd. Yn aml, ceir enwau ar dafodieithoedd – ‘iaith Shir Gar’, ‘iaith y Rhos’ ac yn fwy diweddar ‘siarad Gog’. Er y gwahaniaethau hyn, mae pawb yn derbyn ein bod yn siarad ‘Cymraeg’. Fodd bynnag, gallwn ddeall llawer o eiriau Llydaweg felly pam na chaiff hi ei hystyried fel tafodiaith i’r Gymraeg? Ceir llawer o wahaniaethau ieithyddol yn bodoli rhwng y ddau, anodd i Gymro/Gymraes ddeall Llydaweg – felly rhaid eu hystyried yn ddwy iaith wahanol.

Nid yw’r berthynas rhwng iaith a thafodiaith wastad mor glir â pherthynas y Gymraeg a’r Llydaweg. os teithio o Ffrainc i’r Eidal, ni fydd ffin wleidyddol yn rhwystro trigolion pentrefi rhag cyfathrebu - parhawd dafodieithol sydd. Rydym yn ystyried pobl Ffrainc i siarad Ffrangeg ond yr unig beth sy’n cefnogi hyn yw’r iaith mae’r wladwriaeth yn ei hyrwyddo. Pan fydd gwledydd yn ffurfioli ei hiaith, byddant yn mabwysiadu iaith y wladwriaeth. - e.e. arwyddion ffyrdd Ffrangeg yn Ffrainc. Daw cyfeirio at ffurfioli iaith a ni at ystyriaeth hanfodol wrth drafod tafodiaith sef perthynas yr iaith a’r gymdeithas sydd yn ei defnyddio. Mae pob tafodiaith wedi datblygu dros ganrifoedd gan gael eu heffeithio gan ddylanwadau di-ri. Bydd tafodiaith felly yn adlewyrchu cysylltiadau rhwng ardaloedd eraill, a'u mynd a’u dod o ardal i ardal. Ceir perthynas rhwng y nodweddion hyn a ffiniau daearyddol megis mynyddoedd/afonydd. Heddiw, nid yw’r rhwystrau daearyddol mor bwysig oherwydd gwelliant mewn technoleg a thrafnidiaeth: S4C yn dod ag acenion o bob rhan o’r wlad i gartrefi ar led Cymru. Cyfranna'r datblygiadau at lefelu’r gwahaniaethau tafodieithol.

Wrth ddiffinio tafodieitheg ceir tuedd i gondemnio geiriau benthyg - ond mae geiriau benthyg yn rhan enfawr o bob iaith dan haul - gan y Saesneg eiriau benthyg nifer eang o ieithoedd. Ceir agwedd cymysg at dafodieithoedd yng Nghymru - e.e. Syr John Morris-Jones ar ddechrau’r ganrif yn ceisio safoni orgraff a gramadeg yr iaith ac yn drwm ei law ar dafodieitheg. Ni ellir gwadu cyfraniad Morris-Jones at iaith ysgrifenedig Cymru ond purydd oedd y gŵr ac fe gondemniodd nifer o ffurfiau tafodieithol. Dywed “the various dialects represent different corruptions”. Anghytuna Hugh Evans wrth ddweud bod tafodieitheg yn hybu ysgrifennu Cymraeg - buasai ofn gwallau yn atal pobl rhag ysgrifennu. Cefnogir y gosodiad hwn gan ddisgrifiadau nifer o Gymry at dafodieithoedd eu hunain - ‘Cymraeg shiprys’, 'Cymraeg pot jam'. Gan bron bob ardal term i ddisgrifio’r iaith ‘ddiffygiol’ y credant yw eu tafodiaith.

Agweddau at dafodiaith

Mae nifer yn codi’r cwestiwn os ‘yw un dafodiaith yn fwy derbyniol na’r llall?’ - h.y. fod rhai nodweddion tafodieithol yn fwy derbyniol nag eraill. Cred nifer ym Morgannwg fod yr iaith yn gwella wrth deithio tua'r gogledd “mynd cam arall i Geredigion ac mae’n well fyth. On’ pan bo’ chi’n mynd i’r gogledd, ych chi’n cyrradd y pen ucha yn y iaith”. Mae'r datblygiad mewn darlledu yn yr iaith Gymraeg wedi rhoi mwy o bwyslais ar yr iaith lafar ond mae’n ddigon posibl na fydd dod ag acenion eraill i gartrefi ond yn cadarnhau’r rhagfarnu sydd eisoes yn bod.

Er gwaetha pob barn a rhagfarn, mae lle canolog i’n tafodieithoedd - un o brif nodweddion ein cenedlaetholdeb yw ‘perthyn’ a bydd clywed tafodiaith Gymraeg yn peri sgwrs anochel ar diroedd estron. Gall clywed gair tafodieithol estron ehangu dysg neu achosi cweryla chwyrn megis bod bwrdd yn air gwell na bord, a bod rŵan ddim yn air o gwbl. Nid oes y fath beth a ‘thafodiaith bur’, ac nid oes unrhyw eiriau yn ‘well’ na’i gilydd. Mater o agwedd yw ‘purdeb’ a ‘chywirdeb’ - mae'r tafodieithoedd yn adlewyrchu'r iaith fel y'i siaredir gan ei siaradwyr yn hytrach na'r iaith lenyddol.

Ffynonellau

  • W. N. Francis, Dialectology: An introduction (Llundain: Longman, 1983)

Darllen pellach

  • Chambers, J. K., a Peter Trudgill, Dialectology (Caergrawnt: Cambridge University Press, 1988)
  • Thomas, Beth, a Peter Wynn Thomas, Cymraeg, Cymrâg, Cymrêg. Cyflwyno'r tafodieithoedd (Caerdydd: Gwasg Taf, 1989)

Tags:

Tafodieitheg Diffinio ffiniau tafodieithoeddTafodieitheg Gwahaniaethu rhwng ieithoedd a thafodiethoeddTafodieitheg Agweddau at dafodiaithTafodieitheg FfynonellauTafodieitheg Darllen pellachTafodieithegAcenCystrawenIaith safonolMorffolegTafodiaith

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Obras Maestras Del TerrorCalmia llydanddailMechanicsville, VirginiaAre You Listening?Tiriogaeth Brydeinig Cefnfor IndiaGweriniaeth IwerddonDaeargryn Sichuan 2008CiPanda MawrTrosiadCyfalafiaethMorocoDu FuHentai KamenCeffylMedi HarrisCatfish and the BottlemenGina GersonJim MorrisonPoblogaethPont Golden GateJimmy WalesCinnamonLlwyn mwyar duonLa Orgía Nocturna De Los VampirosMI6Hunan leddfuMynediad am DdimFfistioBanerLa Flor - Episode 125 MawrthLlanfaglanPriddGemau Olympaidd y Gaeaf 2014Cors FochnoWiltshireEritrea2020Brech wenJames CordenGwymonTraethawd29 TachweddMoliannwnSleim AmmarL'ultimo Treno Della NotteFfilm bornograffigHolmiwmBrominSbaenBahá'íDaearegYr AlmaenApple Inc.Santa Cruz de TenerifeYr Ymerodres TeimeiFfraincEtholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru, 1999Ellen LaanGosford, De Cymru NewyddMuscatJohn DeeAda LovelaceSarah PalinArina N. KrasnovaDrôle De FrimousseThe Salton SeaTaylor Swift🡆 More