Iaith yn perthyn i deulu'r ieithoedd Awstronesaidd ac is-deulu'r ieithoedd Malayo-Polynesaidd yw Swndaneg (Basa Sunda).
Fe'i siaredir yn bennaf yng ngorllewin ynys Jawa yn Indonesia, yn yr ardal a adwaenid yn hanesyddol fel "Sunda". Mae tua 27 miliwn o siaradwyr i gyd. Mae'n perthyn yn agos i Jafaneg ac Indoneseg.
Enghraifft o'r canlynol | iaith, iaith fyw |
---|---|
Math | Greater North Borneo, Malayo-Sumbawan |
Rhagflaenwyd gan | Old Sundanese |
Lleoliad | Gorllewin Jawa, Banten, Jakarta, Canolbarth Jawa |
Yn cynnwys | Hormat, Loma |
Rhagflaenydd | Old Sundanese |
Enw brodorol | Basa Sunda |
Nifer y siaradwyr | |
cod ISO 639-1 | su |
cod ISO 639-2 | sun |
cod ISO 639-3 | sun |
Gwladwriaeth | Indonesia |
System ysgrifennu | yr wyddor Ladin, Sundanese script |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Ceir pedair prif dafodiaith: Banten, Bogor, Priangan a Cirebon. Ystyrir Priangan fel y ffurf fwyaf safonol. Ceir gwahanol ffurfiau ar yr iaith yn dibynnu ar statws cymdeithas cymharol y siaradwr a'r bobl y mae'n siarad a hwy.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Swndaneg, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.