Yr arfer o deithio fel lleidr ar gar nwyddau rheilffordd yw sleifio ar drên neu deithio ar y wagen (Saesneg Americanaidd: freighthopping).
Yn yr Unol Daleithiau, wrth i'r rheilffyrdd cael eu hadeiladu tuag at y gorllewin ar ôl Rhyfel Cartref America, roedd hyn yn fodd cyffredin o deithio yn enwedig gan weithwyr ymfudol a gafodd eu galw'n hobos. Roedd yn boblogaidd iawn yn ystod y Dirwasgiad Mawr wrth i bobl deithio i chwilio am waith. Heddiw, mae sleifio ar drenau yn erbyn y gyfraith ym mhob un o daleithiau'r Unol Daleithiau ac fe'i ystyrir yn ffurf o dresmasu. Mae nifer o reilffyrdd yn cyflogi heddlu rheilffordd i atal yr arfer.
Mae sleifio ar drên yn weithgaredd peryglus. Collodd y llenor W. H. Davies ei goes wedi i'w droed dde gael ei fathru gan olwyn trên tra'n ceisio neidio ar drên yn Renfrew, Ontario.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Sleifio ar drên, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.