Roedd Thomas Sidney Sid Bevan (2 Mai 1877 – 17 Hydref 1933) yn chwaraewr rygbi'r undeb o Gymru a fu'n cynrychioli Cymru a'r Llewod Prydeinig.
Chwaraeodd Bevan rygbi clwb i Abertawe, gan ymuno â'r clwb ym 1897.
Sid Bevan | |
---|---|
Ganwyd | 2 Mai 1877 Cymru |
Bu farw | 17 Hydref 1933 Abertawe |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | chwaraewr rygbi'r undeb |
Chwaraeon | |
Tîm/au | Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, Clwb Rygbi Abertawe, Y Llewod Prydeinig a Gwyddelig |
Gwlad chwaraeon | Cymru |
Roedd yn fab i Martin L. Bevan, fferyllydd a phostfeistr Treforys. Cafodd ei addysgu yng Ngholeg Ardwyn, Aberystwyth (lle fu'n chware i dîm pêl-droed y coleg). Bu'n gweithio fel clerc yn Swyddfeydd Gwaith Dur a Thunplat y Dyffryn.
Daeth Bevan i nod fel chwaraewr rygbi wrth gynrychioli'r tîm lleol Clwb Rygbi Treforys. Ym 1897 symudodd i ochr dosbarth cyntaf, Abertawe, ac wrth chwarae i Abertawe cafodd ei ddewis i chwarae dros Gymru. Ei gap cyntaf, a'i unig gap, oedd ar 2 Mawrth 1904 ar Faes Sioe Balmoral yn Belfast yn erbyn Iwerddon . Yn yr un flwyddyn, dewiswyd Bevan i gynrychioli Llewod Prydeinig Bedell Sivright ar eu taith o Awstralia a Seland Newydd. Chwaraeodd mewn pedwar o'r gemau prawf.
Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd Bevan yn ddirprwy is-gapten yn 6ed Bataliwn y Gatrawd Gymreig.
Cymru
Y Llewod
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Sid Bevan, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.