Un o enwau mawrion yn hanes pobl frodorol America ac ieithyddiaeth oedd Sequoyah (Saesneg: George Gist neu George Guess (c.
1770 — Awst 1843). Creodd Sequoyah orgraff (system o wyddor) i'r iaith Cherokee, er iddo fod yn anllythrennog ei hun pan gychwynodd ar y gwaith.
Sequoyah | |
---|---|
Ganwyd | c. 1770 Tuskegee |
Bu farw | Awst 1843 Municipality of Zaragoza |
Man preswyl | Alabama, Pope County, Fort Smith, Arkansas, Mecsico |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Galwedigaeth | silversmith, dyfeisiwr, ieithydd |
Tad | Nathaniel Gist |
Mae'r ffaith fod heliwr a chrefftwr anllythrennog yn gallu cyflawni tasg a ystyrir ond yn faes ieithyddion arbenigol yn cael ei ystyried fel un o gampau deallusol mwyaf trawiadol a gyflawnwyd erioed.
Daeth Sequoyah i'r casgliad mai'r gallu i ysgrifennu a darllen oedd yr allwedd i rym pobl wynion dros frodorion America a oedd yn methu ysgrifennu neu ddarllen yn eu hieithoedd eu hunain.
Ym 1809 aeth ati i greu wyddor i'r iaith Cherokee. Wedi 12 mlynedd o waith, yn 1821, cyhoeddodd ei waith.
Mabwysiadwyd yr wyddor gan y bobl Cherokee ym 1825. Yn fuan wedyn, cyhoeddwyd llyfrau a phapurau newydd yn yr iaith Cherokee gyda’i wyddor ef. Cenhadwr o Gymro o'r enw Evan Jones gyfieithodd y Beibl i'r iaith Cherokee gan ddefnyddio’r wyddor hon.
Cododd lefel llythrennydd y bobl Cherokee yn uwch na'r mewnfudwyr o dras Ewropeaidd o’u hamgylch. Defnyddir yr wyddor hyd heddiw heb ei newid.
Bu cryn sylw i'r wyddor Cherokedd a chyrhaeddodd newyddion amdani'n bell.
Bu’n ysbrydoliaeth i nifer o bobloedd eraill i fynd ati i ddatblygu llythrennedd yn eu hieithoedd hefyd.
Breuddwydiodd Sequoyah o weld y Genedl Cherokee yn unedig undwaith eto, wedi iddynt gael eu trechu a rhoi ar chwâl wrth i bobl gwynion cipio eu tiroedd.
Ym 1842 dechreuodd Sequoya daith i chwilio am bobloedd Cherokee a oedd wedi ffoi'r holl ffordd i Mecsico a’u perswadio i ddychwelyd i’w hen gynefin yn yr Unol Daleithiau.
Bu farw ar y daith a chredir iddo gael ei gladdu wrth dref Zaragoza ger ffin Mecsico-Texas.
Dywedir i’r goeden Sequohah (Lladin: Sequoiadendron giganteum) - goeden fwyaf America - gael ei enwi i’w anrhydeddu.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Sequoyah, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.