Mae'r diffiniad o sefydliad elusennol ac elusen yn amrywio o wlad i wlad, ac mewn rhai achosion ar yr ardal o'r wlad lle mae'r sefydliad elusennol yn gweithredu.
Mae rheolaeth, eu sefyllfa treth a'r modd y mae deddfwriaeth elusennol yn effeithio ar sefydliadau elusennol hefyd yn amrywio.
Mae elusen, neu sefydliad elusennol, yn fath arbennig o sefydliad gwirfoddol yng Nghymru a Lloegr. Mae sefydliad gwirfoddol yn sefydliad sydd yno am resymau elusennol, cymdeithasol, dyngarol neu resymau eraill. Mae angen i'r sefydliad ddefnyddio unrhyw elw ar gyfer swyddogaeth y sefydliad yn unig, ac nid yw'n rhan o unrhyw adran lywodraethol, awdurdod lleol neu gorff statudol arall. Mae pob elusen yn sefydliad gwirfoddol, ond nid yw pob sefydliad gwirfoddol yng Nghymru a Lloegr yn elusennau.
Er mwyn i sefydliad gwirfoddol fod yn sefydliad elusennol, rhaid i nodau cyffredinol neu "bwrpas" y sefydliad, fod yn elusennol. Rhaid i holl bwrpasau'r sefydliad fod yn elusennol, am na all elusen gael rhai pwrpasau elusennol a rhai na sydd yn elusennol.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Sefydliad elusennol, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.