Cyfres o gartŵnau Americanaidd gan Hanna-Barbera yw Scooby-Doo.
Mae'r gyfres yn seiliedig ar anturiaethau'r ci rhyfeddol Scooby-Doo a'i griw o ffrindiau, Fred, Shaggy, Daphne a Velma. Mae Scooby a'i griw yn teithio o le i le yn eu Mystery Machine, gan ddod ar draws ysbrydion, angenfilod neu greaduriaid uwchnaturiol eraill sy'n codi braw ar y boblogaeth leol. Maen nhw'n dargarfod beth sydd tu ôl i'r ysbrydion, gan ddadrithio dihryn sy'n ceisio celu rhyw drosedd neu gynllwyn. Yn y pendraw, mae'r dihiryn yn cael ei arestio, fel arfer yn melltithio ymyrraeth y criw fel mae'n mynd. Ymddangosodd y gyfres yn gyntaf ar rwydwaith CBS yn 1969. Ers hynny, mae 11 o gyfresi wedi cael eu cynhyrchu. Ychwangwyd nai bach Scooby, Scrappy-Doo at restr y cymeriadau yn 1979, ac o 1980 ymlaen symudodd ffocws y gyfres i ganolbwyntio ar anturiaethau y ddau hynny. Yn ogystal â rhaglenni teledu, cafodd dau ffilm eu rhyddhau yn 2002 a 2004, gydag actorion yn y prif rannau (ac eithrio Scooby ei hun, sy'n animeiddiedig).
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Scooby-Doo, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.