Rhan o Ymerodraeth Sbaen oedd Is-deyrnas Sbaen Newydd (Sbaeneg: Nueva España).
Sefydlwyd yr is-deyrnas (Virreinato) yn 1530, ychydig flynyddoedd wedi i Hernán Cortés gipio dinas Tenochtitlan. Parhaodd nes i Mecsico ennill annibyniaeth yn 1821; cydnabuwyd Mecsico fel gwlad annibynnol gan Sbaen yn 1836).
Prifddinas yr is-deyrnas oedd Dinas Mecsico. Rheolid Sbaen Newydd gan Is-frenin, a benodiid gan frenin Sbaen. Roedd yn ymestyn o Costa Rica hyd at ffîn ogleddol tiriogaethau Sbaen yng Ngogledd America, oedd yn ymestyn i ran o'r hyn sy'n awr yn ffurfio'r Unol Daleithiau. Roedd y Ffilipinau a'r tiriogaethau Sbaenaidd yn y Caribî hefyd yn rhan o Sbaen Newydd, er fod ganddynt fesur helaeth o ymreolaeth.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Sbaen Newydd, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.