Awdur Americanaidd yw Sandra Fluke (ganwyd 17 Ebrill 1981) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel cyfreithiwr ac ymgyrchydd dros hawliau merched.
Sandra Fluke | |
---|---|
Ganwyd | Sandra Kay Fluke 17 Ebrill 1981 Saxton, Pennsylvania |
Man preswyl | Los Angeles |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | cyfreithiwr, ymgyrchydd dros hawliau merched, ysgrifennwr |
Plaid Wleidyddol | plaid Ddemocrataidd |
Fe'i ganed yn Saxton, Pennsylvania ar 17 Ebrill 1981. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Cornell, Prifysgol Georgetown, Canolfan y Gyfraith Prifysgol Georgetown a Choleg Ecoleg Dynol Prifysgol Cornell.
Roedd yn wleidyddol ei natur, ac yn ystod ei hoes bu'n aelod o'r Blaid Ddemocrataidd.
Daeth i sylw'r cyhoedd am y tro cyntaf, ym mis Chwefror 2012, pan wrthododd aelodau Gweriniaethol o House Oversight and Government Reform Committee ganiatáu iddi dystio i'r pwyllgor hwnnw ar bwysigrwydd mynnu bod cynlluniau yswiriant ar gyfer atal cenhedlu yn ystod trafodaeth ynghylch a ddylai yswiriant meddygol gynnwys mandad atal cenhedlu. Yn ddiweddarach siaradodd â chynrychiolwyr Democrataidd yn unig.
Mae Sandra Fluke yn ferch i Richard B. Fluke II, gweinidog rhan-amser trwyddedig mewn eglwys Fethodistaidd, a Betty Kay (g. Donaldson).
Graddiodd o Ysgol Uwchradd Tussey / Ysgol Iau Mynydd Pennsylvania yn 1999. Yn 2003 graddiodd o Goleg Ecoleg Ddynol Efrog Newydd ym Mhrifysgol Cornell mewn astudiaethau dadansoddi ac astudiaethau ffeministaidd, rhyw a rhywioldeb.
Cyd-sefydlodd Fluke y glymblaid New York Statewide Coalition for Fair Access to Family Court, a arweiniodd at ddeddfwriaeth yn rhoi mynediad i orchmynion amddiffyn sifil i ddioddefwyr trais partner agos, gan gynnwys dioddefwyr yn eu harddegau a LHDT (LGBTQ). Roedd Fluke hefyd yn aelod o Dasglu Llywydd Dinas Manhattan ar Drais yn y Cartref a "nifer o glymbleidiau eraill yn Ninas Efrog Newydd a Thalaith Efrog Newydd a fu'n llwyddiannus yn cynnig gwelliannau polisi a effeithiai ar ddioddefwyr trais yn y cartref," yn ôl gwefan Prifysgol Georgetown. Tra yn Ninas Efrog Newydd, gweithiodd i Sanctuary for Families, sy'n cynorthwyo dioddefwyr trais domestig a masnachu pobl.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Sandra Fluke, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.