Teulu o gemau cardiau yw pocer sydd â rheolau tebyg ar fetio a safleoedd dyrneidiau.
Amcan y gêm yw i ennill arian neu tsips trwy ddal y dyrnaid gorau ar ddiwedd y rhaniad. Y prif ffurfiau o bocer yw Texas hold 'em, Omaha hold 'em, styd pocer a phocer tynnu.
Ystyrir pocer yn gêm gardiau genedlaethol yr Unol Daleithiau, ond mae'n boblogaidd ar draws y byd. Caiff twrnameintiau eu darlledu ar deledu, ac mae'n gêm boblogaidd ar-lein.
Un o'r menywod mwyaf llwyddiannus yn y gem yw Annie Duke a anwyd ar 13 Medi 1965 yn New Hampshire ac sydd hefyd yn awdur poblogaidd ac yn ddyngarwr.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Pocer, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.