Pencampwriaeth Pêl-droed UEFA Euro 2020, a gyfeirir ato hefyd fel Euro 2020, oedd y 16eg Pencampwriaeth Ewrop ar gyfer timau pêl-droed cenedlaethol dynion a drefnwyd gan UEFA.
Roedd disgwyl i'r gystadleuaeth gael ei chynnal mewn 12 gwlad wahanol o gwmpas Ewrop rhwng 12 Mehefin 2020 hyd 12 Gorffennaf 2020. Gohiriwyd y twrnamaint tan 2021 oherwydd y Pandemig COVID-19.
Manylion | |
---|---|
Cynhaliwyd | Aserbaijan Denmarc Lloegr Yr Almaen Hwngari Yr Eidal Yr Iseldiroedd Iwerddon Rwmania |
Dyddiadau | 11 Mehefin – 11 Gorffennaf |
Timau | 24 |
Lleoliad(au) | 11 (mewn 11 dinas) |
← 2016 2024 → |
Cynhaliwyd y seremoni agoriadol yn y Stadio Olimpico yn Rhufain, yr Eidal, ar 11 Mehefin 2021, cyn gêm gyntaf y twrnamaint. Perfformiodd y canwr opera Eidalaidd Andrea Bocelli y gân "Nessun dorma".
Yn y rownd grŵp, chwaraeodd Cymru yn erbyn y Swistir (gêm gyfartal 1-1), Twrci (gan ennill 0-2) a'r Eidal (colli 1-0). Felly roedd Cymru yn ail y tabl ac yn symud ymlaen i'r rownd 16 olaf. Chwaraeodd Cymru yn erbyn Denmarc yn Arena Johan Cruijff, Amsterdam ond collwyd y gêm o 0-4, gan ei bwrw allan o'r gystadleuaeth.
Enillodd yr Eidal y rownd derfynol ar gosbau yn erbyn Lloegr yn dilyn gêm gyfartal 1–1 ar ôl amser ychwanegol. Cyn y rownd derfynol, gorfododd tua 400 o gefnogwyr Lloegr eu ffordd i mewn i'r stadiwm heb docynnau. Roedd llawer yn dreisgar.
Ar ôl y gêm, roedd y chwaraewyr Seisnig Bukayo Saka, Jadon Sancho a Marcus Rashford yn destun cam-drin hiliol ar-lein ar ôl colli cosbau.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Pencampwriaeth Pêl-droed Ewrop 2020, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.