Uchelwr, merthyr a 'Chadlywydd Galisia' oedd Pedro Pardo de Cela (hefyd: Pedro Pardo de Cela Aguiar e Ribadeneira; c.
1425 - 17 Rhagfyr 1483). Roedd yn fab i Xoán Nunes Pardo, señor de la Torre Cela a Doña Teresa Rodriguez de Aguiar. Fe'i dienyddiwyd gyda'i fab Pedr ar 3 Hydref 1483 o flaen Eglwys Gadeiriol Mondoñedo gan is-frenhinoedd pabyddol.
Pedro Pardo de Cela | |
---|---|
Ganwyd | Pedro Pardo de Cela Aguiar e Ribadeneira 1420 Betanzos |
Bu farw | 3 Awst 1483 Mondoñedo |
Dinasyddiaeth | Galisia |
Galwedigaeth | arweinydd milwrol |
Plant | Constanza de Castro |
llofnod | |
Mae'r wybodaeth amdano'n gyfuniad o dystiolaeth hanesyddol ac o chwedloniaeth lafar, yn debyg felly i'r Brenin Arthur, a thyfodd Pedro'n symbol o frwydr y Galisiaid dros eu hunaniaeth a'u traddodiadau.
Yn dilyn marwolaeth Henry IV, cefnogodd Pardo de Cela Isabella o Castilla yn erbyn Juana La Beltraneja. Enillodd ffafr y frenhines am hyn, a'i anrhydeddodd gyda hawliau a theitl 'Cadlywydd' a'i wneud yn Faer Viveiro. Fodd bynnag, trodd Isabel a'i gŵr yn erbyn llawer o uchelwyr rhydd Galisia. Cryfhaodd y tensiwn rhwng y ddwy ochr rhwng 1476 ac 1483. Daliwyd ef a'i fab a'u ddienyddio.
Yn un o'r chwedlau am ei ddienyddiad, dywedir i'r frenhines Isabella ddanfon pardwn ar femrwn, ond iddo gael ei ddal yn ôl gan ddilynwyr Esgob Mondoñedo, a oedd yn elyn pennaf i Bedro de Cela. Ni chyrhaeddodd y Pardwn. Ychydig wedyn, dienyddiwyd Pedro a dywedir i'w wefusau lefaru'r geiriau "creed, creed, credo". Mae'r bont yn dal i sefyll heddiw ac yn atyniad i bererinion gwladgarol. Ceir llawer o storiau am hyn ar ffurf cerddi, caneuon, nofelau ayb.
The legend tells that the Queen Isabella, merciful with his old ally, gave to his wife, Isabel de Castro, a royal pardon that could never deliver, because it was retained in the so-called Pasatempo Bridge by the followers of the Bishop of Mondoñedo, sworn enemy of the Marshall.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Pedro Pardo de Cela, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.