Y Pantanal, yn Ne America.
yw'r ardal fwyaf o gors yn y byd. Mae'r rhan fwyaf o'r ardal yn nhalaith Mato Grosso, Brasil, ond mae rhannau yn Paragwâi a Bolifia.
Math | Broek, gwastatir, savanna, WWF ecoregion, Flooded grasslands and savannas, gwlyptir, treftadaeth naturiol |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Mato Grosso, Mato Grosso do Sul, Bolifia |
Gwlad | Brasil, Bolifia |
Arwynebedd | 87,871 ha, 187,818 ha |
Cyfesurynnau | 17.4°S 57.5°W |
Llednentydd | Afon São Lourenço |
Statws treftadaeth | Safle Treftadaeth y Byd, safle Ramsar |
Manylion | |
Mae'r Pantanal yn ardal o tua 150.000 km², ac yn y tymor glawog mae tua 80% ohono dan ddŵr. Daw'r dŵr o'r tir uwch gerllaw, yn enwedig Llwyfandir Mato Grosso, ac mae'n llifo o'r Pantanal yn araf ar hyd Afon Paragwâi. Yn y gorllewin, mae'n ffinio ar goedwigoedd sych Chiquitano, yn y de a'r de-orllewin ar y Gran Chaco, ac yn y gogledd a'r dwyrain ar laswelltir y Cerrado.
Ceir amrywiaeth eithriadol o blanhigion ac anifeiliaid yma. Dynodwyd yr ardal yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Pantanal, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.