Mae Pafiliwn Patti yn ganolfan yn Abertawe ar gyfer y celfyddydau creadigol.
Fe'i lleolir ym Mharc Fictoria i'r de-orllewin o ganol dinas Abertawe. Yn y theatr, perfformir amrywiaeth o ddramâu, pantomeimiau, sioeau cerdd a ffeiriau.
Math | adeilad |
---|---|
Enwyd ar ôl | Adelina Patti |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Castell Craig-y-nos, Uplands |
Sir | Abertawe, Uplands |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 9 metr |
Cyfesurynnau | 51.6125°N 3.9636°W |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II |
Manylion | |
Enwyd y ganolfan ar ôl Adelina Patti. Yn wreiddiol, lleolwyd yr adeilad yn ei gardd aeafol ar ei stad Craig-y-nos. Rhoddodd Patti yr adeilad i ddinas Abertawe ym 1918. Mae'n adeilad rhestredig Gradd II.
Cafodd y pafiliwn wedd-newidiad gwerth £3m pan ddaeth yn amlwg nad oedd yr adeilad yn cael ei ddefnyddio i'w "lawn botensial". Ariannwyd y prosiect gan Cyngor & Dinas Abertawe ac Achosion Da y Loteri Genedlaethol. (Gweler yr erthyglau newyddion isod). Dechreuwyd ar y gwaith i ymestyn Pafiliwn Patti yn 2007 drwy ychwanegu adain newydd wedi'i orchuddio gan wydr lle byddai caffi/bwyty'n cael eu lleoli. Bellach lleolir bwyty Indiaidd ar y safle.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Pafiliwn Patti, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.