Milwr Almaenaidd a ddaeth yn gadfridog Rhufeinig ac yn ddiweddarach yn frenin yr Eidal oedd Odoacer (435 – 493), hefyd Odovacar .
Ef a diorseddodd yr ymerawdwr Rhufeinig olaf yn y gorllewin, Romulus Augustus, yn 476.
Odoacer | |
---|---|
Ganwyd | c. 433 Pannonia Prima |
Bu farw | 15 Mawrth 493 Ravenna |
Dinasyddiaeth | Kingdom of Italy |
Galwedigaeth | arweinydd milwrol |
Swydd | Brenhinoedd yr Eidal |
Tad | Edeko |
Priod | Sunigilda |
Plant | Thela, frankish princess |
Credir fod Odoacer yn fab i Edeko, pennaeth y Sciriaid. Roedd y Sciriaid yn llwyth Almaenig oedd yn ddarostyngredig i'r Hyniaid dan Attila. Wedi Brwydr Nedao yn 454, daeth y llwythau Almaenig yn rhydd oddi wrth yr Hyniaid, ac ymrannodd y Sciraid, gyda rhai yn dod yn foederati neu filwyr hur i'r Rhufeiniaid, gyda Odoacer yn eu plith. Gyrrwyd hwy i'r Eidal gan Ricimer yn ystod teyrnasiad Anthemius yn 466.
Yn 470, apwyntiwyd Odoacer yn arweinydd y foederati. Yn 475, apwyntiwyd Orestes i swydd Magister militum, a gwrthryfelodd yn erbyn yr ymerawdwr Julius Nepos gyda chymorth y foederati, gan wneud ei fab ei hun, Romulus, yn ymerawdwr. Ni chadwodd Orestes ei addewidion i'r foederati wedi iddo ennill grym, a gwrthryfelasant yn ei erbyn, gan gyhoeddi Odoacer fel rex Italiae ("brenin yr Eidal"). Yn 476, cipiodd Odoacer ddinas Ravenna, gan gymeryd Romulus Augustus yn garcharor. Gorfododd ef i ildio'r orsedd ar 4 Medi, 476.
Gorchfygodd Odoacer y Fandaliaid yn Sicilia, a gorsegynnodd Dalmatia. Dechreuodd nerth cynyddol Odoacer boeni'r ymerawdr Zeno yng Nghaergystennin, a pherswadiodd yr Ostrogothiaid dan Theodoric Fawr i ymosod arno. Gorchfygwyd Odoacer gan yr Ostrogothiaid ger Aquileia yn 488 a ger Verona yn 489, gan roi Ravenna dan warchae yn 490. Ar 2 Chwefror, 493, arwyddwyd cytundeb rhwng Theodoric ac Odoacer, ond yn y wledd i ddathlu'r cytundeb, lladdodd Theodoric Odoacer a'i ddwylo ei hun.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Odoacer, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.