Nun Morgan Harry: Gweinidog gyda'r Annibynwyr

Roedd Nun Morgan Harry (9 Mehefin, 1800 -22 Hydref, 1842) yn weinidog Cymreig gyda'r Annibynwyr ac yn ymgyrchydd heddwch.

Nun Morgan Harry
Ganwyd9 Mehefin 1800 Edit this on Wikidata
Llanbedr Felffre Edit this on Wikidata
Bu farw22 Hydref 1842 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Newport Pagnell Theological College Edit this on Wikidata
Galwedigaethgweinidog yr Efengyl Edit this on Wikidata

Cefndir

Ganwyd Harry yn Llanbedr Felffre, Sir Benfro, y drydedd o bedwar mab John Harry ac Elizabeth Morgan ei wraig. Ar ôl marwolaeth ei dad ym 1804 symudodd y teulu i fyw gyda'i dad-cu, David Harry, a roddodd addysg dda iddynt. Yn 1817 ymunodd ag eglwys Annibynnol y Garfan, Henllan gan ddechrau pregethu yno yn fuan wedyn.

Roedd Diana Noel, 2il Barwness Barham wedi symud i fyw i Benrhyn Gŵyr ym 1813. Roedd hi'n gefnogol iawn i achosion anghydffurfiol ac wedi sefydlu ysgolion rhad, dau gapel Methodistiaid Calfinaidd a phedwar capel Annibynnwr yn yr ardal. Wedi iddi glywed am y pregethwr ifanc addawol yng Nghapel y Garfan rhoddodd nawdd i Harry mynychu coleg yng Newport Pagnell, Swydd Buckingham, lle bu'n astudio am bedair blynedd fel paratoad at y weinidogaeth.

Gyrfa

Wedi ymadael a'r coleg galwyd Harry i fod yn weinidog ar gapel Annibynnol Banbury, Swydd Rydychen lle cafodd ei ordeinio ar 25 Ebrill 1827. Ym 1832 daeth yn weinidog ar gapel Annibynnol New Broad Street, Llundain, gan aros yno hyd ei farwolaeth.

Daeth â chysylltiad agos â gwaith Cymdeithas Heddwch Llundain, ac ym 1837 etholwyd ef yn un o'i ysgrifenyddion anrhydeddus, gan ddod yn olygydd eu cylchgrawn The Herald of Peace. Cyhoeddodd hefyd gyfres o ddeuddeg darlith o'r enw What Think ye of Christ? (1832).

Roedd yn gyfaill ac yn cydweithio'n agos a'r Parchedigion David Thomas a Caleb Morris, dau weinidog Annibynnol Gymreig arall o Sir Benfro oedd hefyd yn gweithio yn Llundain.

Teulu

Ym 1828 priododd Eliza, merch hynaf William Warlow, gweinidog y Tabernacl, Aberdaugleddau. Bu iddynt bump o blant.

Marwolaeth

Bu farw Harry ar 22 Hydref 1842 yn Llundain, a chladdwyd ef ar 31 Hydref ym mynwent Abney Park, Llundain.

Cyfeiriadau

Tags:

Nun Morgan Harry CefndirNun Morgan Harry GyrfaNun Morgan Harry TeuluNun Morgan Harry MarwolaethNun Morgan Harry CyfeiriadauNun Morgan Harry1800184222 Hydref9 MehefinAnnibynwyrGweinidog yr EfengylHeddwch

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

TotalitariaethBlack Hawk County, IowaCOVID-19Ohio City, OhioDrew County, Arkansas1581OedraniaethY Dadeni DysgCharmion Von WiegandNapoleon I, ymerawdwr FfraincAneirinCyfieithu o'r Saesneg i'r GymraegStanley County, De DakotaSigwratxb114Celia ImrieWashington County, NebraskaFfraincIsabel RawsthorneCoshocton County, OhioGertrude BaconGwlad PwylTunkhannock, PennsylvaniaDigital object identifierTawelwchJürgen HabermasRandolph, New JerseyThe WayCyhyryn deltaiddArolygon barn ar annibyniaeth i GymruVergennes, VermontSt. Louis, MissouriKeanu ReevesLlyngyren gronCheyenne, WyomingBIBSYSHunan leddfuRay AlanCyflafan y blawdAnna Vlasova1403Sefydliad Cytundeb Gogledd yr IweryddVittorio Emanuele III, brenin yr EidalAugustusRhyfel IberiaKnox County, OhioScotts Bluff County, NebraskaBuffalo County, NebraskaWcráinLlynConway County, ArkansasArabiaidY Cyngor PrydeinigSioux County, NebraskaY DdaearUndduwiaethAnna MarekLafayette County, ArkansasJosé CarrerasTeiffŵn HaiyanRhyfelVeva TončićPolcaDavid Lloyd GeorgeAnsbachMargaret BarnardHentai KamenPiPhilip AudinetHarri Potter1927🡆 More