Nodiant cerddorol yw unrhyw system sydd yn cynrychioli cerddoriaeth drwy ddefnyddio symbolau ysgrifenedig.
Daw'r cofnod cyntaf o nodiant cerddorol o tua 2000 CC yn Nippur ar garreg. Roedd nodiant Groeg hynafol yn gallu dangos traw a pharhad nodyn ac i raddau'r alaw hefyd. Defnyddiwyd y system hon o'r 6g CC hyd at tua'r 4g OC. Oherwydd gwaith Al-Kindi carlamodd datblygiad nodiant cerddorol yn y byd Arabaidd yn bell o flaen y Groegiaid yn yr 800au CC gan ddatblygu'r gallu i ddangos alawon gweddol gymhleth. Dechreuodd y system nodiant rydym yn gyfarwydd â hi heddiw ddatblygu yn Ewrop yn y 9g. Dechreuodd mynachod gofnodi nodiant emynau gyda dotiau yn mynd lan a lawr y dudalen yn ôl y traw. Nid oedd y system gynnar yn dangos rhythm ac felly dim ond cofweinydd i alawon a adweinid yn barod ydoedd. Yn y 14g crëwyd y nodiant cyfoes gan y mynach Eidaleg Guido d'Arezzo.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Nodiant cerddorol, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.