Mynydd Libanus (Arabeg: جبل لبنان) yw'r enw a ddefnyddir am gadwyn o fynyddoedd yn Libanus a de-orllewin Syria.
Mae'n ymestyn am 240 km o'r gogledd i'r de, gyda tua 160 km yn Libanus ac 80 km yn Syria.
Math | cadwyn o fynyddoedd |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Y Dyffryn Hollt Mawr |
Gwlad | Libanus |
Arwynebedd | 4,840 km² |
Uwch y môr | 3,088 metr |
Cyfesurynnau | 34.29972°N 36.11639°E, 34.299719°N 36.116389°E |
Hyd | 160 cilometr |
Deunydd | calchfaen |
Ar ochr orllewinol y mynyddoedd mae'r gwastadedd arfordirol a'r Môr Canoldir, tra ar yr ochr ddwyreiniol mae Dyffryn Beka. Y copa uchaf yw Qurnat as Sawda', 3,088 m. Rhoddodd y mynyddoedd eu henw i'r wlad; mae "Laban" yn golygu "gwyn" mewn Aramaeg.
Yn y mynyddoedd hyn y ceir Cedrwydd Libanus, a ystyrir yn symbol o'r wlad, ac sy'n ymddangos ar faner Libanus.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Mynydd Libanus, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.