Mae Moel Cynghorion neu Moel y Cynghorion yn fynydd sy'n rhan o fynyddoedd Yr Wyddfa yn Eryri.
Daw ei enw o'r hen air Cymraeg cynnor, sy'n golygu 'cyntaf' neu 'sylfaenol'; felly y foel cyntaf mewn golwg wrth nesau at yr Wyddfa. Saif i'r gogledd-orllewin o gopa'r Wyddfa ei hun, yr agosaf i gopa'r Wyddfa o gadwyn o fryniau; y lleill yw Foel Goch, Foel Gron, a Moel Eilio. Mae Bwlch Cwm Brwynog yn ei wahanu oddi wrth yr Wyddfa ei hun a Bwlch Maesgwm yn ei wahanu oddi wrth y copa nesaf, Foel Goch.
Math | mynydd, copa |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 674 metr |
Cyfesurynnau | 53.0851°N 4.1127°W |
Cod OS | SH5861056395 |
Manylion | |
Amlygrwydd | 176 metr |
Rhiant gopa | Yr Wyddfa |
Cadwyn fynydd | Eryri |
Gellir ei ddringo ar hyd nifer o lwybrau. Un ffordd yw dilyn Llwybr Llyn Cwellyn tua chopa'r Wyddfa hyd at Fwlch Cwm Brwynog ac yna troi i'r chwith i ddilyn y llwybr i gopa Moel Cynghorion. Gellir hefyd ddringo Moel Eilio gyntaf a cherdded ar hyd y grib.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Moel Cynghorion, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.