Mae Foel Gron yn fynydd sy'n rhan o fynyddoedd Yr Wyddfa yn Eryri.
Saif i'r gogledd-orllewin o gopa'r Wyddfa ei hun, rhwng Foel Goch i'r de-ddwyrain a Moel Eilio i'r gogledd-orllewin. Mae Bwlch Cwm Cesig yn ei wahanu oddi wrth Moel Eilio, a Chwm Cesig ei hun ar ei ochr ddwyreniol yn arwain i lawr i Gwm Dwythwch. I'r de-orllewin mae llechweddau mwy graddol yn arwain i lawr at Llyn Cwellyn.
Math | mynydd, copa |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 629 metr |
Cyfesurynnau | 53.0889°N 4.1517°W |
Cod OS | SH5604856850 |
Manylion | |
Amlygrwydd | 30.7 metr |
Rhiant gopa | Moel Eilio |
Cadwyn fynydd | Eryri |
Gellir ei ddringo ar hyd nifer o lwybrau, ond fel rheol cyrhaeddir i'r copa wrth fynd ar hyd y grib i gyd. Mae modd cyrraedd Bwlch Maesgwm o Lwybr Llyn Cwellyn neu o Lanberis ar draws Cwm Brwynog, ac yna dringo i'r copa dros Foel Goch.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Foel Gron, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.