Bardd a nofelydd Sbaeneg a diplomydd o Gwatemala oedd Miguel Ángel Asturias (19 Hydref 1899 – 9 Mehefin 1974).
Derbyniodd Wobr Lenyddol Nobel yn 1967 "am ei gyrhaeddiad llenyddol bywiog, wedi ei wreiddio'n ddwfn yn nheithi a thraddodiadau cenedlaethol y bobloedd Indiaidd yn America Ladin".
Miguel Ángel Asturias | |
---|---|
Ganwyd | Miguel Ángel Tejada Peñuela 19 Hydref 1899 Dinas Gwatemala |
Bu farw | 10 Mehefin 1974 Madrid |
Dinasyddiaeth | Gwatemala |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | bardd, ysgrifennwr, diplomydd, newyddiadurwr, gwleidydd, bardd-gyfreithiwr |
Swydd | Member of the Congress of Guatemala, Llywydd y Rheithgor yng Ngŵyl Cannes, ambassador of Guatemala to Mexico, ambassador of Guatemala to El Salvador, ambassador of Guatemala to France |
Adnabyddus am | Leyendas de Guatemala, Mulata de tal |
Arddull | nofel |
Mudiad | Swrealaeth, realaeth hudol |
Priod | Clemencia Amado, Blanca Mora y Araujo |
Plant | Rodrigo Asturias |
Gwobr/au | Gwobr Lenyddol Nobel, Order of Augusto César Sandino, Medalla Yucatán, Gwobr Heddwch Lennin |
Ganwyd yn Ninas Gwatemala. Derbyniodd ei radd yn y gyfraith o Brifysgol San Carlos yn 1923. Ymsefydlodd ym Mharis ac astudiodd ethnoleg yn y Sorbonne. Ymunodd â'r mudiad Swrealaidd dan ddylanwad y bardd André Breton. Un o'i weithiau cyntaf oedd Leyendas de Guatemala (1930), sy'n disgrifio cymdeithas a diwylliant y Maya yn y cyfnod cyn dyfodiad y Sbaenwyr.
Dychwelodd Asturias i Gwatemala a sefydlodd y cylchgrawn radio El diario del aire. Ymhlith ei nofelau mae El señor presidente (1946), Hombres de maíz (1949), a'r triawd sy'n cynnwys Viento fuerte (1950), El papa verde (1954), a Los ojos de los enterrados (1960). Cyhoeddodd sawl cyfrol o farddoniaeth, gan gynnwys Sonetos (1936). Cychwynnodd ar ei yrfa ddiplomyddol yn 1946, a daliodd swydd llysgennad Gwatemala i Ffrainc o 1966 i 1970. Bu'n byw ym Mharis am weddill ei oes. Bu farw ym Madrid yn 74 oed.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Miguel Ángel Asturias, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.