Cenhadaeth ddiplomyddol dan arweiniad llysgennad yw llysgenhadaeth.
Yn ôl y dychmygiad cyfreithiol a elwir alltiriogaethedd, mae eiddo real y llysgenhadaeth yn bodoli y tu allan i awdurdodaeth y wladwriaeth letyol. Gellir olrhain y cysyniad hwn yn ôl i De Jure Belli ac Pacis (1625) gan Hugo Grotius, ac yn Le Droit des Gens (1758) ysgrifennai Emerich de Vattel: "dyma yn unig ffordd drosiadol o ddisgrifio annibyniaeth [y llysgennad] ar awdurdodaeth y wlad a'i feddiant ar yr holl hawliau sydd eu hangen er llwyddiant y llysgenhadaeth". Ni sonir fawr am alltiriogaethedd gan ysgolheigion y gyfraith ryngwladol ers y 19g, ond fe'i defnyddir weithiau mewn disgwrs wleidyddol i atgyfnerthu'r syniad o freinryddid diplomyddol.
Weithiau, defnyddir y gair "siawnsri" i gyfeirio at adran wleidyddol neu swyddfeydd y llysgenhadaeth, ar wahân i breswylfa'r llysgennad.
Mewn gwledydd ansefydlog, os oes bygythiad dichonol o gyrch gan derfysgwyr neu filwriaethwyr, adeiladir cadarnle o amgylch adeiladau'r llysgenhadaeth er mwyn eu diogelu. Gallai gynnwys trigfannau a chyfleusterau ar gyfer staff a'u teuluoedd yn ogystal â chyfadeilad y llysgenhadaeth ei hun. Er enghraifft, yn sgil meddiannu Irac gan luoedd yr Unol Daleithiau, codwyd cadarnle ddiplomyddol enfawr yn Baghdad, ar gost o $600 miliwn, a chanddi 8000 o weithwyr. Er bod y llywodraeth sydd yn adeiladu'r fath gadarnle yn ei ystyried yn rhagofal angenrheidiol, mae ymwahanu'r llysgenhadaeth o'r gymuned letyol yn anesmwytho'r berthynas rhwng y ddwy wladwriaeth.
Yn hanesyddol, bu llysgenadaethau mewn gwledydd poeth yn symud i leoliad oerach yn yr haf. Yn Tsieina, symudai diplomyddion preswyl o Beijing (Pecin gynt) i demlau yn y bryniau i orllewin y ddinas, neu i drigfannau ar lan y môr, yn ystod yr haf. Arferai'r llysgenhadaeth Brydeinig yn Tsieina symud i gyrchfan arfordirol Beidaihe hyd at ganol yr 20g. Yn yr Ymerodraeth Otomanaidd, symudai'r mwyafrif o lysgenadaethau o Gaergystennin i hafodydd ar lannau'r Bosporus.
Ceir y cofnod cynharaf o'r gair llysgenhadaeth yn 1852.
Er nad oes gan Gymru lysgenhadaeth ei hunan, fe geir Conswliaeth (neu is-genhadaeth o roi term arall) gan Weriniaeth Iwerddon yng Nghaerdydd.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Llysgenhadaeth, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.