Erfyn siâp triongl a phlân ar oleddf cludadwy yw lletem.
Un o'r chwe pheiriant syml clasurol yw hi. Gellir ei defnyddio i wahanu dau wrthyrch neu rannau o wrthrych, i godi gwrthrych neu i ddal gwrthrych yn ei le. Mae'n gweithio drwy drawsnewid grym a roddir ar y pen di-fin i mewn i rymoedd sy'n berbendicwlar i'w hwynebau ar oleddf. Rhoddir mantais fecanyddol lletem gan gymhareb o hyd ei holeddf i'w lled. Er y gallai lletem fer ag ongl lydan gyflawni nod yn gynt, mae eisiau mwy o rym nag sydd ar letem hir ag ongl gul.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Lletem, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.