Pentre a safle hen fynachlog, yn ymyl Biwmares yn ne-ddwyrain Ynys Môn yw Llan-faes ( ynganiad ) (hefyd Llanfaes).
Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Ynys Môn |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.2793°N 4.0957°W |
Cod OS | SH603778 |
Cod post | LL58 |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru) |
AS/au | Virginia Crosbie (Ceidwadwyr) |
Adnabuwyd Llanfaes yn wreiddiol fel 'Llan Ffagan Fach' fel teyrnged i Ffagan, a gododd eglwys ar y safle.[angen ffynhonnell] Credir mai apostol Cymreig o'r 2il ganrif ydoedd Ffagan ac mai ef hefyd a goffeid yn enw'r pentref Sain Ffagan ar gyfyl Caerdydd. Nid yw'r enw presennol yn cyfeirio at sant, ond daw yn hytrach o'r enw Cymraeg, yn llythrennol: "Eglwys mewn tir agored".
Yn y Gymraeg, yngenir Llanfaes ym Mro Morgannwg yr un fath â'r Llanfaes hon, ond mae Llywodraeth Prydain yn gwahaniaethu rhwng y ddwy drwy sillafu'r naill yn Llanmaes. Fodd bynnag, yn y gorffennol, adnabuesid y pentref ym Môn wrth yr un sillafiad hefyd.
Ceir yr amrywiad answyddogol Llan-faes, gyda chysylltnod, yn y Gymraeg yn ogystal.
Yn yr Oesoedd Canol roedd Llanfaes yn rhan o gwmwd Dindaethwy, cantref Menai. Hyd ddechrau'r 19g roedd gwasaneth ceubal yn mynd â theithwyr drosodd rhwng glan-môr Llan-faes a man ar Draeth Lafan a gyrchid o Abergwyngregin.
Ym 1254, Eglwys Llanfaes oedd yr eglwys gyfoethocaf ar Ynys Môn.
Yn sgil marwolaeth Llywelyn ap Gruffydd a'i frawd Dafydd, cafodd tref Llanfaes ei goresgyn gan Edward 1af. Fodd bynnag, bu i'r trigolion wrthryfela ac fe'u cosbwyd o ganlyniad. Gorfu'r plwyfolion symud i "Newborough", ac er i'r Eglwys hon barhau, roedd yn gyfnod cythryblus yn ei hanes. Codwyd y twr gorllewinol ym 1811 ac yna ychwanegwyd y gangell, corff a'r meindwr ym 1845.
Cododd y Tywysog Llywelyn ap Iorwerth (Llywelyn Fawr) fynachlog neu frodordy i Urdd Sant Ffransis yn Llan-faes er anrhydedd i'w wraig Siwan, merch y brenin John o Loegr ar ôl iddi farw yn 1237. Ceir yr hanes ym Mrut y Tywysogion:
Dioddefodd y Fynachlog ychydig o ddifrod yn sgil gwrthryfel Madoc ym 1295. Fodd bynnag, profwyd difrod gwaeth ym 1401 gan i'r Brodyr ochri â Glyndwr yn ei wrthyfel a bu'n rhaid gadael i'r lle fynd yn wag am gyfnod. O dan deyrnasiaeth Harri V, gwelodd y Brodordy fuddsoddiad; cafodd ei adfer unwaith yn rhagor. Fodd bynnag, gorchmynodd Harri VIII y dylid dymchwel y Brodordy am y tro olaf ym 1538. Dechreuwyd ar y gwaith o wneud hynny flwyddyn yn ddiweddarach, ym 1539.
Symudwyd arch garreg y Dywysoges Siwan i Eglwys y Santes Fair a Sant Nicolas, Biwmares ar ddechrau'r 19g wedi iddi ddioddef sarhad ar ôl i Fynachlog Llanfaes gael ei dinistrio. Bellach, gellir gweld ei harch ym mhorth Eglwys Biwmaraes.
Codwyd y plasdy hwn yn 1852 gan Hansome. Ceir dau lawr, atic a selar ac mae ganddo dŵr hynod. Yn y 1950au cafodd ei ddefnyddio fel mynachdy, cyn ei droi'n westy ac yna'r fflatiau.
Ym 1991, gwnaethpwyd cais gan Dŵr Cymru i Adran Cynllunio Cyngor Bwrdeistref Ynys Môn, fel roedd ar y pryd, i ddatblygu safle'r cyn-frodordy yn safle trin gwastraff neu garthffosiaeth. Dyma'r fan lle, yn ôl pob tebyg, y claddwyd y Dywysoges Siwan. Er gwaethaf protestiadau, cymeradwywyd y cynllun gan Bwyllgor Cynllunio Cyngor Bwrdeistref Ynys Môn.
Yn fuan wedi hynny ym 1992, ysgrifennodd y diweddar Brifardd Gerallt Lloyd Owen gerdd ddychanol yn beirniadu'r penderfyniad. Cyfeiria'r gerdd 'Llan-faes" at yr hyn a welai fel brad y Cynghorwyr: "Chwithau wŷr mawr, fradychwyr Môn".
Trefi
Amlwch · Benllech · Biwmares · Caergybi · Llangefni · Niwbwrch · Porthaethwy
Pentrefi
Aberffraw · Bethel · Bodedern · Bodewryd · Bodffordd · Bryngwran · Brynrefail · Brynsiencyn · Brynteg · Caergeiliog · Capel Coch · Capel Gwyn · Carmel · Carreglefn · Cemaes · Cerrigceinwen · Dwyran · Y Fali · Gaerwen · Glyn Garth · Gwalchmai · Heneglwys · Hermon · Llanallgo · Llanbabo · Llanbedrgoch · Llandegfan · Llandyfrydog · Llanddaniel Fab · Llanddeusant · Llanddona · Llanddyfnan · Llanedwen · Llaneilian · Llanfachraeth · Llanfaelog · Llanfaethlu · Llanfair Pwllgwyngyll · Llanfair-yn-Neubwll · Llanfair-yng-Nghornwy · Llan-faes · Llanfechell · Llanfihangel-yn-Nhywyn · Llanfwrog · Llangadwaladr · Llangaffo · Llangeinwen · Llangoed · Llangristiolus · Llangwyllog · Llaniestyn · Llannerch-y-medd · Llanrhuddlad · Llansadwrn · Llantrisant · Llanynghenedl · Maenaddwyn · Malltraeth · Marian-glas · Moelfre · Nebo · Pencarnisiog · Pengorffwysfa · Penmynydd · Pentraeth · Pentre Berw · Pentrefelin · Penysarn · Pontrhydybont · Porthllechog · Rhoscolyn · Rhosmeirch · Rhosneigr · Rhostrehwfa · Rhosybol · Rhydwyn · Talwrn · Trearddur · Trefor · Tregele
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Llan-faes, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.