Awdures o Lwcsembwrg yw Josiane Kartheiser (ganwyd 28 Tachwedd 1950) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel beirniad llenyddol, newyddiadurwr ac awdur plant.
Yn yr Almaeneg mae'n sgwennu fel arfer, ac weithiau mewn Lwcsembwrgeg.
Josiane Kartheiser | |
---|---|
Ganwyd | 28 Tachwedd 1950 Differdange |
Dinasyddiaeth | Lwcsembwrg |
Galwedigaeth | beirniad llenyddol, ysgrifennwr, newyddiadurwr, awdur plant |
Tad | René Kartheiser |
Fe'i ganed yn Differdange (Déifferdeng) yn ne-orllewin Lwcsembwrg ar 28 Tachwedd 1950.
Graddiodd Kartheiser o ysgol ferched Lycée des jeunes filles yn Ninas Lwcsembwrg. Rhwng 1971 a 1974, astudiodd lenyddiaeth Saesneg ac America ym Mhrifysgol Caint yng Nghaergaint (Canterbury). Ar ôl gweithio fel newyddiadurwr llawrydd, dysgodd Lwcsembwrgeg ym Mhrifysgol Sheffield ac yng Nghanolfan Ieithoedd, Lwcsembwrg hyd nes iddi ymddeol yn 2010. Cyfrannodd i eiriadur Ffrangeg-Lwcsembwrg-Saesneg - Parler luxembourgeois – Esou schwätze mir – Living Luxemburgish a bu'n gyfrannwr rheolaidd i nifer o bapurau newydd Lwcsembwrg gan gynnwys Lëtzebuerger Journal, Tageblatt a Le Jeudi.
Er 1978 cyhoeddodd Kartheiser straeon byrion a thraethodau, barddoniaeth, dramâu, beirniadaeth lenyddol a gweithiau ar gyfer plant.
Bu'n aelod o Gyngor Parhaol Lwcsembwrg am rai blynyddoedd.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Josiane Kartheiser, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.