Joséphine De Beauharnais: Ymerodres y Ffrancwyr, gwraig gyntaf Napoleon (1763–1814)

Roedd Joséphine Bonaparte (ganwyd Marie Josèphe Rose Tascher de La Pagerie; 23 Mehefin 1763 – 29 Mai 1814) yn Ymerodres y Ffrancwyr fel gwraig gyntaf yr Ymerawdwr Napoleon I.

Caiff ei hadnabod yn aml fel Joséphine de Beauharnais.

Joséphine de Beauharnais
Joséphine De Beauharnais: Ymerodres y Ffrancwyr, gwraig gyntaf Napoleon (1763–1814)
Portread o'r Ymerodres Joséphine yn Malmaison yn 1801, gan François Gérard
Ganwyd23 Mehefin 1763 Edit this on Wikidata
Les Trois-Îlets Edit this on Wikidata
Bu farw29 Mai 1814 Edit this on Wikidata
o difftheria Edit this on Wikidata
Rueil-Malmaison Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Ffrainc Ffrainc
Galwedigaethcasglwr celf, drafftsmon, arlunydd, noddwr y celfyddydau Edit this on Wikidata
TadJoseph-Gaspard de Tascher de La Pagerie Edit this on Wikidata
MamRose Claire Des Vergers de Sannois Edit this on Wikidata
PriodNapoleon I, Alexandre de Beauharnais Edit this on Wikidata
PlantEugène de Beauharnais, Hortense de Beauharnais Edit this on Wikidata
LlinachDuc de Dalberg Edit this on Wikidata
Gwobr/auUrdd y Frenhines Maria Luisa Edit this on Wikidata

Bywyd

Fe'i ganed yn Les Trois-Îlets, Martinique, i deulu cyfoethog o Ffrainc a oedd yn berchen ar blanhigfa siwgr a ddefnyddiodd llafur caethweision. Hi oedd merch hynaf Joseph-Gaspard Tascher de La Pagerie (1735–1790) a'i wraig Rose-Claire des Vergers de Sannois (1736–1807).

Priododd Joséphine ei gŵr cyntaf, y milwr Alexandre de Beauharnais, a ddaeth yn gadlywydd yn hwyrach, ym 1779. Fe'i ddienyddiwyd ef gan y gilotîn yn 1794, yn ystod y cyfnod o'r Chwyldro Ffrengig a elwir yn Deyrnasiad Braw. Carcharwyd Joséphine yn hen fynachdy Carmes am bum niwrnod ar ôl dienyddiad ei gŵr.

Derbyniodd Joséphine nifer o lythyrau caru a ysgrifennwyd gan Napoleon; mae llawer ohonynt yn dal i fodoli. Am na chafodd blant â Napoleon, fe dirymwyd eu priodas ganddo ef ym 1810, ac fe briododd ef Marie-Louise o Awstria.

Fel noddwr celf, gweithiodd Joséphine yn agos gyda cherflunwyr, arlunwyr ac addurnwyr mewnol i ddatblygu arddull unigryw, "le style Empire" ('arddull yr Ymerodraeth'; hynny yw, yr ymerodraeth Ffrengig gyntaf) yn y Château de Malmaison, ger Afon Seine yn Île-de-France. Roedd y château yn enwog am ei gardd rosod, y bu Joséphine yn ei goruchwylio'n agos.

Disgynyddion a pherthnasau

Trwy ei phlant gyda Beauharnais, Joséphine oedd nain Napoleon III, ymerawdwr Ffrainc yn ystod yr Ail Ymerodraeth, ac Amélie o Leuchtenberg, ymerodres Brasil. Mae aelodau o deuluoedd brenhinol presennol Sweden, Denmarc, Gwlad Belg a Norwy, ac hefyd teulu archddugol Lwcsembwrg, yn disgyn ohoni.

Yn 1828 llongddryllwyd y llong La Jeune Emma ar draeth Cefn Sidan, ger Llanelli, a boddwyd Adeline Coquelin, nith deuddeg oed Joséphine. Claddwyd hi ym mynwent Pen-bre.

Tags:

1763181423 Mehefin29 MaiNapoleon

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Storio dataAnnie Jane Hughes GriffithsIau (planed)Sex TapeIeithoedd BerberAlien RaidersFfrwythTomwelltHela'r drywSiarl II, brenin Lloegr a'r AlbanLa Femme De L'hôtelRocynRuth MadocLlywelyn ap GruffuddBaionaPiano LessonGwyddbwyllCochVin DieselYr Undeb SofietaiddLeo The Wildlife Ranger1945Eirug WynDulynSan FranciscoRhestr ffilmiau â'r elw mwyafSant ap CeredigNos GalanBlaengroenLeonardo da VinciD'wild Weng GwylltSiôr II, brenin Prydain FawrScarlett JohanssonEtholiad cyffredinol nesaf y Deyrnas Unedig yng NghymruJapanWaxhaw, Gogledd CarolinaFfisegTyrcegPidynCrai KrasnoyarskGemau Olympaidd yr Haf 20204 ChwefrorColmán mac LénéniCynanElin M. JonesEdward Tegla DaviesAnilingusRhestr ysgolion uwchradd yng NghymruCwnstabliaeth Frenhinol IwerddonCodiadEisteddfod Genedlaethol Cymru Aberdâr 1885Y Celtiaid11 TachweddHenry LloydGarry KasparovCaerRhestr mynyddoedd CymruSiôr III, brenin y Deyrnas UnedigCapel CelynGeorge Brydges Rodney, Barwn 1af RodneyJohn OgwenAlldafliad benywEva StrautmannEsblygiadMae ar Ddyletswydd🡆 More