Y Chwyldro Ffrengig

Roedd y Chwyldro Ffrengig (o 1789 hyd 1799) yn gyfnod yn hanes Ffrainc pan wnaeth y gweriniaethwyr ddymchwel y frenhiniaeth ac fe aeth yr Eglwys Gatholig Rufeinig mewn canlyniad trwy gyfnod o ailstrwythuro sylfaenol yn Ffrainc.

Tra y bu Ffrainc yn cyfnewid yn ôl ac ymlaen rhwng gweriniaeth, ymerodraeth a brenhiniaeth am 75 mlynedd yn dilyn cwymp y Weriniaeth Gyntaf i law Napoleon Bonaparte, roedd y chwyldro er hynny yn arwyddo diwedd yr ancien régime gan roi y rhai a ddilynodd yn y cysgod yn nychymyg pobl Ffrainc.

Y Chwyldro Ffrengig
Y Chwyldro Ffrengig
Enghraifft o'r canlynoldigwyddiad hanesyddol, chwyldro Edit this on Wikidata
Dyddiad5 Mai 1789 Edit this on Wikidata
Dechreuwyd14 Gorffennaf 1789 Edit this on Wikidata
Daeth i ben9 Tachwedd 1799 Edit this on Wikidata
LleoliadFfrainc Edit this on Wikidata
Yn cynnwysTeyrnasiad Braw, cyhoeddi diddymiad y frenhiniaeth Edit this on Wikidata
GwladwriaethFfrainc Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Y Chwyldro Ffrengig
Un o'r sans-culottes

Effeithiodd y Chwyldro Ffrengig nid yn unig ar Ffrainc ond ar weddill Ewrop hefyd, a chafodd gryn effaith ar y tiroedd Almaenaidd. Roedd yr hyn a ddechreuodd fel protest gan yr aristocratiaid yn erbyn Louis XVI, brenin Ffrainc a’i frenhiniaeth absoliwt, i ragflaenu chwyldro mawr a newidiodd hanes a golwg Ewrob.

Daeth grŵp o'r enw y Girondistes, o ardal Bordeaux, i rym ond fe’u gwrthwynebwyd gan grŵp y Jacobins. Disodlwyd y Jacobins gan y Directoire, sef grŵp o’r dosbarth canol a oedd wedi uno â’r Girondistes, ac fe gafwyd llywodraeth newydd gymedrol. Daethant i bwer ym 1794 ond erbyn 1799 ystyriwyd hwy yn llygredig ac fe gymerodd Napoleon yr awenau. Daeth Napoleon i bwer a chymorth y fyddin ac fe lywodraethodd fel teyrn. Yr angen am sefydlogrwydd a gwarediad y chwyldro llygredig a barodd parodrwydd y bobl i dderbyn Napoleon er ei fod yn unben. Daeth Napoleon a threfn newydd ond ailsefydlodd llawer o hen sefydliadau’r chwyldro a oedd wedi dirywio hefyd. Er yn unben, yr oedd yn ddyn goleuedig, a chyflwynodd system weinyddol ddiwygiedig. Diwygiodd y system addysg gan fynnu i bawb gael addysg. Diwygiodd y system gyfreithiol i greu y Code Napoleon, a oedd yn cynnwys datganiad o hawliau dynol.

Adwaith yng Nghymru

Cymysg fu'r ymateb yng Nghymru. Ar y dechrau datganwyd cefnogaeth frwd i'r chwyldro gan rhai llenorion a radicaliaid - e.e. Jac Glan-y-gors, awdur Seren Tan Gwmmwl a Iolo Morgannwg - ond roedd eraill yn ei erbyn. Mae'n debyg mai cyfyng oedd gwybodaeth y werin bobl am y digwyddiadau yn Ffrainc a'r Amerig oherwydd diffyg newyddiaduron Cymraeg. Ond dychrynwyd y rhan fwyaf o gefnogwyr y Chwyldro gan y tro gwaedlyd y cymerodd a'r anhrefn a ddilynodd.

Llyfryddiaeth

  • John James Evans, Dylanwad y Chwyldro Ffrengig ar Lenyddiaeth Cymru (Hugh Evans a'i Feibion, Lerpwl, 1928)

Tags:

17891799BrenhiniaethEglwys Gatholig RufeinigFfraincGweriniaethGweriniaetholdebNapoleon BonaparteYmerodraeth

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Terry'sGwaledIfan Huw DafyddPeiriant WaybackCnocell fraith JapanTriple CrossedWordPressBusty CopsAldous HuxleyPrinceton, IllinoisAngylion y Stryd460auSiarl III, brenin y Deyrnas UnedigDriggDavid Williams, Castell DeudraethDeath Takes a HolidayJens Peter JacobsenAlfred DöblinAmanda HoldenBrechdanTour de l'AvenirWaunfawrQuinton Township, New JerseyWicipediaCwm-bach, LlanelliRig VedaTitw tomos lasTre-saithGhost ShipMorys Bruce, 4ydd Barwn AberdârKyūshūLlansteffanJapanCristina Fernández de KirchnerHalfaHelen West HellerUnol DaleithiauJimmy WalesClinton County, PennsylvaniaYnni adnewyddadwyGreek StreetLa Seconda Notte Di NozzeGramadeg Lingua Franca NovaNewsweekBryncirPortage County, OhioNevermindFaith RinggoldColeg Emmanuel, CaergrawntBrysteCalan MaiNormanton, Pontefract a Castleford (etholaeth seneddol)1 AwstJohn Gwilym Jones (bardd)Ymgripiwr gweElvis Xxx – a Porn ParodyCylchfa amserBay CountyDisturbiaCyfathrach rywiolEmmanuel MacronDivina CommediaKati MikolaOlwen ReesAround The CornerR. H. QuaytmanThe PianoWilliam Golding🡆 More