Diwinydd a darlithiwr Cymreig oedd John Edward Daniel neu J.
E. Daniel (26 Mehefin 1902 - 11 Chwefror 1962). Roedd yn un o aelodau cynnar Plaid Cymru a bu'n gadeirydd y blaid am gyfnod.
John Edward Daniel | |
---|---|
Llun o J E Daniel gan ei fab, John Illtud Daniel | |
Ganwyd | 26 Mehefin 1902 Bangor |
Bu farw | 11 Chwefror 1962 |
Alma mater | |
Galwedigaeth | darlithydd |
Ganed Daniel ym Mangor ac addysgwyd ef yn Ysgol Friars cyn mynd i Goleg yr Iesu, Rhydychen lle graddiodd yn y Literae Humaniores yn 1923 ac mewn Diwinyddiaeth yn 1925. Daeth yn Gymrawd o Goleg Bala-Bangor, gan ddod yn Athro yno ar 28 Gorffennaf 1926 yn dilyn marwolaeth Dr Thomas Rees. Ymhlith ei fyfyrwyr yno roedd R. Tudur Jones.
Safodd bedair gwaith fel ymgeisydd seneddol dros Blaid Cymru. Bu'n is-gadeirydd rhwng 1931 a 1935, ac olynodd Saunders Lewis fel cadeirydd yn 1939, swydd a ddaliodd hyd Awst 1943. Yn 1946 apwyntiwyd ef yn arolygydd ysgolion. Bu farw o ganlyniad i ddamwain ffordd ger Helygain, Sir Fflint.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article John Edward Daniel, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.