Ynys folcanig Eidalaidd ym Môr Tirrenia sy'n gorwedd ym mhen gogleddol Bae Napoli, tua 19 milltir (30 km) o ddinas Napoli yw Ischia.
Mae'n mesur tua 6 milltir (10 km) o'r dwyrain i'r gorllewin a 4 milltir (7 km) o'r gogledd i'r de. Mae bron yn hollol fynyddig; ei gopa uchaf yw Mynydd Epomeo (2,585 troedfedd, 788 m). Mae'r ynys yn ddwys ei phoblogaeth, gyda 62,000 o drigolion (mwy na 1,300 o drigolion y km2).
Math | volcanic island |
---|---|
Prifddinas | Ischia |
Poblogaeth | 62,027 |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Ynysoedd Fflegraeaidd |
Sir | Dinas Fetropolitan Napoli |
Gwlad | Yr Eidal |
Arwynebedd | 46.3 km² |
Uwch y môr | 789 metr |
Gerllaw | Môr Tirrenia |
Cyfesurynnau | 40.7311°N 13.8956°E |
Hyd | 9.9 cilometr |
Mae'r ynys wedi bod yn enwog am ei ffynhonnau poeth ers y cynoesoedd. Mae'n un o'r sbâu mwyaf yn Ewrop.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Ischia, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.