Un o arloeswyr y Diwygiad Methodistaidd oedd Howel Harris (23 Ionawr 1714 – 21 Gorffennaf 1773).
Roedd yn frodor o Drefeca ym Mrycheiniog (Powys erbyn heddiw).
Howel Harris | |
---|---|
Ganwyd | 23 Ionawr 1714 Talgarth |
Bu farw | 1773 Talgarth |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | pregethwr |
Cysylltir gyda | Daniel Rowland |
Bu yn Academi Llwyn-lwyd tan ei fod yn 17 oed. Bu wedyn yn ysgolfeistr ar ysgolion Llangors, Llangasty a Talgarth.
Yn y cyfnod rhwng Sul y Blodau 1735, pan fu'n gwrando ar bregeth Ficer Talgarth, a'r Sulgwyn cafodd droedigaeth. Fe fu yn gyfrifol am gychwyn y Seiat oedd mor bwysig i'r Methodistiaid. Roedd y rhai a oedd dan ddylanwad Howel yn dod at ei gilydd i astudio'r Beibl ac i drafod y ffordd Gristnogol o fyw. Yn 1737 cyfarfu am y tro cyntaf â Daniel Rowland, Llangeitho.
Ei freuddwyd ef oedd sefydlu Teulu Trefeca. Gwahoddodd nifer o bobl i ddod i fyw i Drefeca. Roedd rhai yn gweithio ar y tir neu wrth eu crefft megis gwneud basgedi, gwaith lledr, tyrnio, rhwymo llyfrau, argraffu a nyddu. Roedd pawb yn dod at ei gilydd dair gwaith y dydd i gydaddoli.
Er na bu i freuddwyd 'Teulu Trefeca' wireddu'n llawn, fe sefydlwyd Coleg Trefeca ar safle i gartref gan ddod yn ganolfan ddiwinyddol bwysig i Fethodistiaeth Cymru a'r Eglwys Bresbyteraidd Cymru hyd at ddechrau'r 20g. Mae'r adeiladau bellach yn ganolfan grefyddol a chynhadledd.
Mae wedi ei gladdu wrth yr allor yn Eglwys Talgarth, yn yr hen Sir Frycheiniog.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Howel Harris, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.