Mae Gylfi Þór Sigurðsson (ganwyd 8 Medi 1989) yn bêl-droedwyr sy'n dod o Wlad yr Iâ.
Cafodd o ei eni ar yr 8fed o Fedi 1989 yn Reykjavík. Mae'n chwaraewr canol-cae sy'n tueddu ymosod. Mae'n chwarae i Everton ac i'r tîm cenedlaethol Gwlad yr Iâ
Gylfi Sigurdsson | |
---|---|
Ganwyd | Gylfi Þór Sigurðsson 8 Medi 1989 Reykjavík |
Dinasyddiaeth | Gwlad yr Iâ |
Galwedigaeth | pêl-droediwr |
Taldra | 186 centimetr |
Pwysau | 79 cilogram |
Chwaraeon | |
Tîm/au | C.P.D. Dinas Abertawe, Shrewsbury Town F.C., Reading F.C., Crewe Alexandra F.C., TSG 1899 Hoffenheim, Tottenham Hotspur F.C., C.P.D. Dinas Abertawe, Iceland national under-17 football team, Iceland national under-19 football team, Iceland national under-21 football team, Tîm pêl-droed cenedlaethol Gwlad yr Iâ, Everton F.C., Lyngby Boldklub |
Safle | canolwr |
Gwlad chwaraeon | Gwlad yr Iâ |
Dechreuodd Gylfi ei yrfa gyda Reading yn 2008, ond wedyn cafodd ei werthu i Hoffenheim yn 2010 - a oedd y gwerthiant mwyaf gan Reading ar y pryd. Cafodd ei ethol yn Chwaraewr y Tymor am ddau dymor yn olynol - ar gyfer Reading yn 2009–10 ac ar gyfer Hoffenheim yn 2010–11. Ar ôl tymor yn ôl mewn pêl-droed yn Lloegr gyda Dinas Abertawe, ymunodd â Tottenham Hotspur am ffi o £8 miliwn. Yn 2014, symudodd yn ôl i Abertawe fel rhan o gyfnewidfa i Ben Davies.
Gwnaeth Gylfi ei uwch ymddangosiad rhyngwladol cyntaf yng Ngwlad yr Iâ yn 2010 ac ers hynny mae wedi ennill dros 60 o gapiau. Cynrychiolodd ei wlad yn eu twrnament mawr cyntaf, Pencampwriaeth UEFA Ewro 2016, lle cyrhaeddodd ei wlad y rowndiau terfynol. Chwaraeodd hefyd yng Nghwpan y Byd FIFA 2018.
Ar 16eg Awst 2017, llofnododd Gylfi dros Everton, am ffi o £40 miliwn (gyda £5 miliwn mewn ad-daliadau posibl). Oedd yr cytundeb yma yn record i'r clwb. Maent yn ennill cyflog o £5.2 miliwn y flwyddyn (£100,000 yr wythnos), a oedd yn gwneud Gylfi yr enillydd uchaf yn Everton.
Ym Mehefin 2019, priododd Gylfi efo'i cariad hir dymor Alexandra Ívarsdóttir.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Gylfi Sigurdsson, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.